Gemau'r Gymanwlad: Hanes y baton cyntaf
- Cyhoeddwyd

Ddydd Gwener bydd baton Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn cael ei ddadorchuddio. Yn fanno y bydd y gemau yn cael eu cynnal yn 2014. Ond y pwyllgor gwaith yng Nghaerdydd feddyliodd am y syniad o gael ras gyfnewid am y tro cyntaf a hynny yn ôl yn 1958.
Caerdydd oedd cartref y gystadleuaeth y flwyddyn honno a hynny am y tro cyntaf ers i'r gemau gael eu sefydlu yn 1930.
Mae Curadur y casgliadau chwaraeon yn Sain Ffagan yn dyfalu bod y pwyllgor wedi meddwl am y syniad o gael ras gyfnewid er mwyn cynnig rhywbeth gwahanol:
"Efallai roedden nhw eisiau rhywbeth newydd, ffres. Does dim lawr mewn print ond efallai ei fod e yn ffordd newydd o uno gwledydd," meddai Emma Lile.
Teithio
Cafodd y baton arian a gafodd ei wneud gan wneuthurwyr yn Birmingham ei gario o Balas Buckingham gan yr athletwr Roger Bannister, y dyn a lwyddodd i redeg milltir mewn llai na phedwar munud.
Roedd yn mynd ar draws Lloegr a Chymru wedyn ac yn cael ei chario gan athletwyr lleol a phlant ysgol. Yn ôl y cofnodion roedd oedolion yn ei gludo am ddwy filltir a phlant a phobl ifanc yn gwneud hynny am filltir.
Byddai yn teithio o un sir i sir arall yn ystod y dydd a'r nos. Stadiwm Parc yr Arfau yng Nghaerdydd oedd y lleoliad olaf a hynny ar gyfer y seremoni agoriadol.
Ken Jones sef y chwaraewr rygbi dros Gymru a'r sbrintiwr gafodd ei ddewis i afael yn y baton wrth fynd â fe i mewn i'r stadiwm.
Tu fewn i'r baton rhoddwyd llythyr a gafodd ei ysgrifennu gan y Frenhines a oedd yn, "dymuno bob lwc a llwyddiant i'r gemau."
Dywed y neges ar y baton arian sydd yn 40 cm o hyd ac yn 4 cm o ran diamedr ac sydd â symbolau o gennin Pedr a'r ddraig goch arno: "Message carried by a relay of runners from Buckingham Palace to Cardiff Arms Park July 14-July 18 1958."
Diwrnod pwysig
Roedd y diwrnod pan yr agorwyd y gemau yn un o bwys yng Nghymru meddai Emma Lile ac nid yn unig am mai dyma oedd dechrau'r cystadlu:
"Roedd y Frenhines i fod yno ond roedd hi'n sâl. Roedd hi wedi recordio neges ac fel rhan o'r neges fe ddywedodd fod Charles yn mynd i fod yn Dywysog Cymru. Yn ôl y son roedd yna floeddio gan y dorf."
Bu'r gemau yn llwyddiant mawr meddai'r curadur: "Mi wnaethon nhw ddangos bod Cymru fel cenedl fach yn gallu cynnal digwyddiad mawr byd eang ac roedden nhw wedi cael 11 o fedalau erbyn diwedd y gemau, un o'r rheini yn rhai aur ar gyfer y bocsio gan Howard Winstone."
Hyder
Mi wnaethon nhw hefyd roi hyder i Gymru meddai ac roedd eu heffaith yn bellgyrhaeddol:
"Yn 1959 mi gafodd baner y Ddraig Goch ei gwneud yn faner swyddogol. Mi ddaeth hyn ar gefn llwyddiant Gemau'r Gymanwlad neu mi oedd y gemau yn helpu yn fawr i dynnu sylw at ein hunain fel cenedl ac yn sbardun i lot o athletwyr eraill yn y blynyddoedd wedyn."
Wedi'r cystadlu cafodd y baton ei roi fel rhodd i'r Amgueddfa Genedlaethol ac mae wedi cael ei gadw yno ers hynny.
Dyw'r baton ddim yn cael ei arddangos ar hyn o bryd: "Mae gyda ni gymaint o gasgliadau a ry'n ni methu arddangos popeth. Ond mae'r tîm cadwraeth yn gofalu amdano."
Mae baton newydd yn cael ei greu bob tro gan y wlad sy'n cynnal y gemau, a dyna fydd yn digwydd yn Glasgow ymhen blwyddyn. Mae rhai batonau wedi eu colli ar hyd y blynyddoedd meddai Emma Lile ond mae baton Cymru yn para mewn cyflwr da.
Mae gan Glasgow ddiddordeb mewn gweld y gwrthrych meddai ac mae posibilrwydd y bydd hynny yn digwydd yn y dyfodol.
Er nad yw hi wedi cael cyfle i wisgo'r menig arbennig a'i ddal yn ei dwylo eto mae'n cyfaddef bod gwybod ei fod yn rhan o'u casgliad yn deimlad arbennig: "Mae'n gyffrous iawn i fod gyda gwrthrych o'r fath. Mae gymaint o straeon yn ymwneud gyda'r baton."