Llacio cyfyngiadau HIV
- Cyhoeddwyd

Bydd rheolau sy'n gwahardd gweithwyr iechyd sydd â chlefyd HIV yn cael eu llacio fel rhan o adolygiad gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl y llywodraeth, mae rheolau a luniwyd yn y 1980 pan oedd llai o ddealltwriaeth o'r risgiau yn cael eu moderneiddio a'u diwygio.
Bydd newid arall yn gweld teclynnau'n cael eu gwerthu fydd yn caniatáu i bobl brofi eu hunain er mwyn canfod y clefyd er mwyn cael triniaeth yn gynt.
Os yw person yn gwneud prawf positif arnyn nhw'u hunain, bydd angen prawf arall mewn clinig i gadarnhau hynny.
Mae hyd at 100,000 o bobl yn y DU â'r clefyd HIV, ond dyw hyd at chwarter ohonyn nhw ddim yn ymwybodol o hynny.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "Yr hyn sydd ei angen yw sustem symlach sy'n parhau i warchod y cyhoedd drwy annog pobl i gael prawf HIV cyn gynted â phosib ac sydd ddim yn dal rhai o'n gweithwyr iechyd gorau ni yn ôl.
"Mae HIV yn parhau i fod yn fater iechyd difrifol, ond rydym yn gwybod bod pobl yn anfodlon cael prawf am nifer o resymau.
"Drwy ddiddymu'r gwaharddiad ar werthu profion hunan-brawf a diweddaru'r cyfyngiadau sy'n atal gweithwyr iechyd rhag trin cleifion, rydym yn dod â Chymru a gweddill y DU yn gyfartal â'r mwyafrif o wledydd y gorllewin.
"Rydym am ei gwneud yn haws i bobl gael prawf am y clefyd ac yna cael y driniaeth orau posib."