Nifer presgripsiynau'n codi 50%
- Cyhoeddwyd

Mae nifer y presgripsiynau y mae meddygon teulu yn eu dosbarthu yng Nghymru wedi codi mwy na 50% ers 10 mlynedd.
Y llynedd roedd 74.2 miliwn o bresgripsiynau tra oedd 48.8 miliwn yn 2002.
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar fod y polisi presgripsiwn am ddim wedi arwain at ganfyddiad nad oedd meddyginiaethau'n costio dim.
"Mi fyddwn yn dod â'r drefn i ben ac yn buddsoddi fel y bydd cleifion yn cael gwell mynediad i driniaethau canser.
'Gwella gofal'
"Mi fyddwn yn rhoi mwy o arian i fudiad yr hospis ac yn gwella gofal i gleifion sydd wedi cael strôc."
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai meddyg teulu oedd yn penderfynu a oedd angen presgripsiwn ar glaf ac nad oedd eu polisi presgripsiwn am ddim wedi newid y sefyllfa.
"Yng Nghymru mae nifer uchaf y pen, 24.3 tra bod 20.8 yng Ngogledd Iwerddon, 18,7 yn Lloegr a 18.6 yn yr Alban.
"Rhwng 2007 a 2012 cododd nifer y presgripsiynau 20% yng Nghymru a 26% yn Lloegr.
"Does dim cysylltiad rhwng nifer presgripsiwn y pen a thaliadau.
"Mae Cymru wedi dosbarthu mwy o bresgripsiynau y pen na Lloegr ers 1973."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2012
- Cyhoeddwyd13 Mai 2012
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2012