'Dylai corff annibynnol reoli Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth'
- Cyhoeddwyd

Dylai ymddiriedolaeth annibynnol redeg canolfan gelfyddydau, meddai un o'r sylfaenwyr, er mwyn atal sefyllfa rhag gwaethygu.
Roger Tomlinson oedd rheolwr cyntaf Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth ac mae'n gweithio erbyn hyn fel ymgynghorydd celfyddydau rhyngwladol.
Ers Awst 1 mae'r ganolfan wedi bod yn rhan o'r Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a Chelfyddydau Creadigol.
Dywedodd Mr Tomlinson y byddai gwasgedd ariannol mewn adrannau eraill yn peryglu'r ganolfan ac y byddai'r cyhoedd ar eu colled.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud bod gyda nhw ddigon o gyrff allanol sydd yn cydweithio gyda nhw a bwrdd cynghori celfyddydol newydd sydd wedi bod yn gweithredu ers rhyw 18 mis.
Cyfuno
Agorwyd y ganolfan yn 1972.
Yn gynharach eleni cyhoeddwyd cynllun strategol fyddai'n golygu y byddai'r ganolfan yn cyfuno gyda'r brifysgol fel rhan o adran academaidd ac y byddai cyfarwyddwr y ganolfan yn adrodd yn ôl i'r brifysgol.
Dywedodd Mr Tomlinson y byddai'r system newydd o lywodraethu yn arwain at ganolfan fyddai'n gwasanaethu'r brifysgol nid y cyhoedd.
"Yn ddelfrydol, fyddech chi'n ffurfio ymddiriedolaeth annibynnol - fel arfer cwmni cyfyngedig wedi ei gofrestru fel elusen.
"Fe fyddai llywodraethwr y ganolfan yn lle adrodd i'r adran academaidd yn adrodd i grŵp swyddogol fyddai'n cwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn ac a fyddai hefyd yn gorfod derbyn polisïau a'r rhaglen."
Cydbwyso
Nod yr ymddiriedolaeth, meddai, fyddai cydbwyso buddiannau'r cyhoedd a'r buddsoddwyr ac awgrymodd y dylai'r brifysgol wneud hyn "er mwyn amddiffyn eu hunain rhag unrhyw feirniadaeth".
Y perygl, meddai, fyddai defnyddio arian ar gyfer y ganolfan er mwyn helpu adrannau eraill fyddai'n wynebu llai o gyllideb.
Nid dyma'r tro cyntaf y mae rhai wedi poeni am newidiadau i reolaeth y ganolfan.
Mae pobl leol wedi ymgyrchu yn erbyn y newidiadau ac roedd cyfarfod cyhoeddus nos Wener.
Gwahardd
Hefyd mae protestiadau wedi bod ar y campws yn sgil penderfyniad i wahardd dau uwch-reolwr, y cyfarwyddwr Alan Hewson a'r Rheolwr Gweithredu Auriel Martin.
Mae Mr Hewson wedi ymddeol.
Dywedodd y pwyllgor gweithredu eu bod yn cefnogi cynnig Mr Tomlinson ac aelod o'r grŵp yw'r artist lleol Stephen West.
"Pan sefydlwyd y ganolfan roedd ganddi ei chyllideb ei hun ac roedd yn adrodd yn uniongyrchol i Gyngor Celfyddydau Cymru.
"... os daw'r ganolfan yn rhan o'r sefydliad academaidd rydym ni'n ofni y caiff annibyniaeth artistig y ganolfan ei pheryglu, yn enwedig oherwydd y ffaith bod y brifysgol wedi awgrymu eu bod am ddefnyddio lle o fewn y ganolfan i ddibenion academaidd ..."
Dywedodd Sarah Prescott, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth, Ieithoedd a Chelf Creadigol o Brifysgol Aberystwyth ei bod yn cydweithio yn barod gyda chyrff allanol a gyda'r bwrdd cynghori celfyddydol:
"...Fel rhywun sydd yn dod yma yn newydd mae angen amser arnon ni i setlo. Dw i yn bendant angen amser i siarad gyda phobl, i siarad gyda phawb a pan dw i yn dweud pawb dw i'n cyfeirio at y gweithwyr sydd yn y ganolfan gelfyddydol."
Mae siarad gyda'r gymuned leol yn bwysig iddi meddai ac mae angen amser i weld sut y mae pethau yn gweithio. Dywed y bydd cydweithio yn bwysig i wneud y lle yn llwyddiant:
"Mae hwn yn ddechrau newydd i bawb... Dw i'n credu ein bod ni angen amser i asesu, trafod, meddwl ynglŷn â lle rydyn ni yn mynd yn y dyfodol ac amser i feddwl beth ydyn ni yn mynd i wneud a sut yr ydyn ni yn mynd i weithio gyda'n gilydd yn y dyfodol."
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn darparu mwy na £500,000 i'r ganolfan bob blwyddyn.
'Negyddol'
Aeth Nick Capaldi, y prif weithredwr, i'r cyfarfod cyhoeddus yr wythnos ddiwethaf, a dywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn poeni am y "teimladau negyddol" yn lleol.
"Mae (ymddiriedolaeth annibynnol) yn gweithio'n dda ond mi ddylen ni ystyried mwy nag un model.
"Rwy'n credu bod annibyniaeth yn rhoi eglurdeb a ffocws, yn ogystal â chynyddu'r ymdeimlad o hunanreolaeth.
"Ond beth y gall cysylltiad gyda mudiadau eraill 'i wneud - ac rydym ni'n ariannu ystod eang o ganolfannau sy'n ymwneud ag awdurdodau lleol a phrifysgolion- yw dod â'r agweddau gwahanol hynny at ei gilydd, y partneriaid a rhannu costau.
"Felly ... mae angen i ni ystyried hyn yn ofalus iawn."
Dywedodd eu bod wedi ymrwymo i weithio gyda'r brifysgol i benodi cyfarwyddwr.
Straeon perthnasol
- 5 Gorffennaf 2013
- 22 Mehefin 2013
- 27 Mawrth 2013