Tirlithriad yn cau ffordd
- Cyhoeddwyd

Mae'r tywydd wedi bod yn achosi trafferthion yn y gogledd a'r canolbarth dros nos.
Daeth glaw trwm i ardal Corris, Machynlleth ac Aberystwyth yn arbennig, ac fe gafodd A487 ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng Corris a Machynlleth yn dilyn tirlithriad yno.
Mae tîm o uned briffyrdd y cyngor wedi asesu'r sefyllfa, ac maen nhw'n dweud bod y ffordd bellach wedi ailagor yn rhannol.
Fe gafodd trafnidiaeth ei ddargyfeirio am gyfnod yn Cross Foxes er mwyn osgoi safle'r tirlithriad yn Esgairgeiliog.
Mewn digwyddiadau eraill dros nos, fe gafodd modfedd o ddŵr ei bwmpio allan o dŷ pensiynwr, a bu'n rhaid i ddiffoddwyr fynd i ddau dŷ yn ardal Aberystwyth wedi i ddraeniau gael eu blocio yno.
Ar hyn o bryd mae pedwar rhybudd am lifogydd posib yn weithredol yn ôl Adnoddau Naturiol Cymru:
- Gogledd Ceredigion - afonydd Clarach, Rheidol ac Ystwyth;
- Ardal y Ddyfi - yr ardal o gwmpas Afon Ddyfi o Ddinas Mawddwy i Lanbrynmair gan gynnwys Machynlleth;
- Ardal Dysynni - yr ardal o gwmpas Afon Dysynni o Dywyn i Finffordd;
- Ardal Mawddach ac Wnion - yr ardaloedd o gwmpas afonydd Mawddach ac Wnion o'r Friog i Ganllwyd a Rhydymain.