Clwb yn cyflwyno cynllun stadiwm
- Cyhoeddwyd

Ar drothwy eu tymor cyntaf yn Uwchgynghrair Bêl-droed Lloeg, mae clwb Caerdydd wedi cyflwyno cynlluniau i ehangu eu stadiwm.
Cadarnhaodd y clwb eu bod wedi cyflwyno cais cynllunio i'r awdurdod lleol yn ymwneud â rhan gyntaf yr ehangu.
Bydd yn golygu ychwanegu ail haen i Eisteddle Ninian a sicrhau y bydd y stadiwm yn dal tua 33,000.
Eisoes mae perchennog, Tan Sri Vincent Tan, wedi addo y bydd y clwb yn tyfu.
Super Cup
Os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo, bydd y gwaith yn dechrau ym mis Hydref ac yn cael ei gwblhau erbyn Gorffennaf 2014 cyn i'r stadiwm gynnal Super Cup Ewrop rhwng enillwyr cynghrair y pencampwyr a chynghrair Europa y tymor i ddod.
Dywedodd Cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Steve Borley: "Mae'r cais yn sgil astudiaeth dichonolrwydd yn gynharach yn yr haf wedi i ni gael dyrchafiad i'r uwchgynghrair.
"Fe gafodd y cais ei gyflwyno i'r awdurdodau perthnasol ddydd Gwener. Rydym yn ddiolchgar iawn am y cymorth a'r arweiniad sydd wedi ei gynnig i ni hyd yma.
'Amserlen dynn'
"Ein gobaith yw bod y cais yn cael ei gymeradwyo a'n bod yn codi'r estyniad o fewn amserlen dynn iawn."
Ni fydd y gwaith cychwynnol yn cael effaith ar gefnogwyr o fewn y stadiwm gan y bydd y strwythur newydd yn cael ei adeiladu y tu ôl i'r eisteddle presennol.
Bydd lle i 5,000 o seddau ychwanegol yn y stadiwm pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau.
Straeon perthnasol
- 15 Awst 2013
- 13 Awst 2013