Clawdd Offa wedi ei ddifrodi
- Cyhoeddwyd

Mae difrod sylweddol wedi ei wneud i ddarn o Glawdd Offa ger Y Waun, Wrecsam.
Pan aeth cynghorwyr i asesu'r sefyllfa fe gafon nhw "sioc" am fod ffos wedi diflannu a thrac newydd wedi ei greu.
Mae'r clawdd o dan adain Cadw, y corff sy'n gwarchod henebion.
Mae'n drosedd difrodi Clawdd Offa ac fe all troseddau arwain at ddirwy neu garchar am hyd at ddwy flynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Cadw: "Rydym yn ymwybodol o'r difrod i'r clawdd sy'n gofadail o bwysigrwydd cenedlaethol ac wedi ei warchod gan y gyfraith.
'Ymchwilio'
"Rydym wedi dechrau ymchwilio ..."
Yn ôl Cymdeithas Clawdd Offa, mae'r difrod ar dir preifat ger y ffordd rhwng Y Waun a Froncysyllte.
Dywedodd Jim Saunders o'r mudiad: "Mae hyn wedi fy nychryn.
"Mae'n beth trist iawn. Mae'n gofadail 1,200 mlwydd oed - fedrwch chi ddim ei drwsio."
Lle poblogaidd
Mae'r ardal yn denu mwy na 15,000 o ymwelwyr yn wythnosol yn ystod yr haf gyda nifer o gerddwyr yn dod o Ewrop.
Mae hanesydd lleol yr ardal, Mark Williams wedi dweud bod hi'n ymddangos "na fydd modd adfer y difrod."
Dyw'r Cynghorydd Terry Evans sydd yn cynrychioli'r ardal ddim yn gallu coelio bod hyn wedi digwydd: "Mae'n echrydus bod rhywbeth fel hyn wedi digwydd i gofeb hanesyddol 1,200 mlwydd oed. Mi ddylen nhw gael ei gorfodi i roi'r clawdd yn ôl at ei gilydd."