Gwrthdrawiad: Heol yn Hwlffordd ynghau am 24 awr

  • Cyhoeddwyd

Fe allai heol fod ynghau am 24 awr, meddai'r heddlu, wedi gwrthdrawiad rhwng craen a thancer fore Gwener.

Chafodd neb ei anafu ar yr A4076 yn Hwlffordd ond fe gafodd "swm sylweddol" o danwydd ei ollwng.

Mae tagfeydd wedi bod yng nghyffiniau canol y dref.

Ar hyn o bryd mae diffoddwyr, y cyngor sir, a Chyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio delio â'r sefyllfa.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae cyfarpar arbenigol yn cael ei ddefnyddio wedi i danwydd gael ei ollwng."

Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio o'r ardal sy'n cynnwys Johnston Road (A4776), Old Hakin Road, Freemans Way a Heol Penfro.