Pallial: Rhyddhau dyn 62 oed ar fechnïaeth

  • Cyhoeddwyd
John Allen yn cyrraedd Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddechrau mis Awst
Disgrifiad o’r llun,
John Allen yn cyrraedd Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddechrau mis Awst

Mae dyn 62 oed gafodd ei arestio fel rhan o'r ymchwiliad i gam-drin mewn cartrefi plant yn y 1980au wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Cafodd ei arestio yn Wrecsam ar amheuaeth o droseddau rhyw difrifol ac ymosodiadau rhywiol ar ddau fachgen 14 a 15 oed yn y 1980au.

Bydd ar fechnïaeth tan fis Tachwedd.

Fe oedd y pumed i gael ei arestio yn ystod Ymgyrch Pallial sy'n ymchwilio i honiadau diweddar o gam-drin flynyddoedd yn ôl yn y system gofal plant.

Hyd yma mae un dyn wedi cael ei gyhuddo o droseddau fel rhan o'r ymchwiliad.

Cafodd John Allen, 72 oed o Ipswich yn Suffolk, ei gyhuddo o 32 o droseddau'n ymwneud â 14 o fechgyn ac un ferch oedd rhwng saith a 15 oed.