Gŵyl Gymraeg newydd mewn safle hanesyddol

  • Cyhoeddwyd
Baner Crug MawrFfynhonnell y llun, Richard Jones
Disgrifiad o’r llun,
Mae yna dîm o wirfoddolwyr wedi bod yn helpu i drefnu'r wŷl

Bydd gŵyl newydd Gymraeg yn cael ei chynnal ar benwythnos gŵyl y Banc a hynny mewn lleoliad go arbennig, sef safle Brwydr Crug Mawr.

Richard Jones, neu Richard Oernant fel mae'n cael ei adnabod yn y sir, feddyliodd am y syniad o drefnu Gŵyl Crug Mawr ar ôl gweld gŵyl gerddorol yn cael ei chynnal yn lleol y llynedd.

Roedd o eisiau cynnal gŵyl Gymraeg ac mi oedd ganddo'r lleoliad perffaith am mai ar gaeau ei ffarm ryw filltir o Aberteifi oedd lleoliad brwydr hanesyddol Crug Mawr yn 1136.

Hanes

"Hon oedd brwydr fwyaf y Cymry yn erbyn y Normaniaid," mae'n esbonio. "Roedd y Cymry yn ymladd yn eu herbyn nhw ac fe gafodd 3,000 o ddynion y Normaniaid eu lladd.

"Dyma'r tro cyntaf y defnyddiwyd bwa hir y Cymry mewn brwydr. Yn dilyn y frwydr mi wnaeth y Normaniaid ffoi yn ôl i Aberteifi ac mi ddymchwelodd y bont am fod yna gymaint o bobl arni.

"Y son yw bod pobl wedi gorfod cerdded dros y cyrff er mwyn croesi."

Gruffudd ap Rhys oedd yn arwain y frwydr ar ran y Cymry, a'i dad ef oedd yr Arglwydd Rhys wnaeth godi Castell Aberteifi. Mae'n frwydr o bwys i'r ardal felly, meddai Richard, gan dweud nad oes yna lawer o bobl yn gwybod am hanes y safle:

"Mae pawb yn gwybod am Battle of Hastings a Cofiwch Tryweryn pan wnaethon ni golli. Dydyn ni fel Cymry ddim yn hoffi cofio ennill. Ond mi wnaeth y Cymry ennill y tro ma ac ma angen i ni ddathlu pan y'n ni'n ennill. Mae'n bwysig bod pobl yn gwybod amdano fe."

Ymateb da

Ers meddwl am y syniad mae criw o wirfoddolwyr wedi cynnig ei helpu ac ers rhyw bedwar mis wedi bod yn cyfarfod unwaith yr wythnos. Dydy'r cynghorydd lleol, 42 oed, erioed wedi cynnal gŵyl o'r blaen:

"Mae e wedi bod yn brofiad..... hollol wahanol," mae'n cydnabod. Ond mae rhai gyda phrofiad yn y maes wedi bod yn barod i'w gynghori.

Ffynhonnell y llun, BBC radio cymru
Disgrifiad o’r llun,
Jess yw un o'r bandiau fydd yn perfformio yn yr wŷl

Ar y nos Wener fe fydd cyfle i fandiau ifanc a rhai newydd berfformio. Mae rhoi llwyfan i dalent ifanc wedi bod yn bwysig iddo. Y diwrnod canlynol mi fydd yna weithgareddau i blant a bandiau fel Jess ac Ail Symudiad yn chwarae yn y nos.

"Mae'r bandiau wedi bod yn fodlon tynnu eu prisie nhw i lawr i wneud yn siŵr bod yr ŵyl yn llwyddiant chwarae teg," meddai.

Dywed bod yr ymateb yn lleol hefyd wedi bod yn bositif gyda lot o ddiddordeb wedi ei ddangos ar Facebook: "Yn aml mae'r Saeson yn symud mewn ac yn trefnu pethe a ni fel Cymry yn tueddu i adael pethe i fod.

"Mae'r ffaith mai Cymry Cymraeg sydd yn trefnu'r ŵyl ma - ma pobl yn hoffi hynny."

Uno'r gymuned

Mae ganddo drwydded ar gyfer dwy fil o bobl a'i obaith yw dod yn agos at hynny ar gyfer y digwyddiad. Mae hefyd yn bwriadu ei chynnal yn flynyddol ac mae ganddo rhai syniadau yn barod ar gyfer y dyfodol:

"Gobeithio blwyddyn nesaf y gall bob clwb lleol gael stondin yn yr ŵyl, clwb Karate lleol ac yn y blaen. Yn Aberteifi ni ddim yn tueddu i wneud lot gyda'n gilydd ac mae hyn yn ffordd i dynnu pawb at ei gilydd."

Gyda sawl peth i'w drefnu ar gyfer yr ŵyl dau ddiwrnod mae'n cyfaddef bod rhedeg y ffarm hefyd wedi bod yn dipyn o her: "Mae e wedi effeithio bach ar y ffarm. Ni'n torri seilage heddi' ac mae'n addo glaw fory!" meddai gan chwerthin.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol