12 mis am ymosod ar yr actor Rhys ap William
- Cyhoeddwyd

Cafodd Rhys ap William - oedd yn chwarae rhan Cai yn Pobol y Cwm - anafiadau difrifol
Mae dyn 24 oed wedi cael ei garcharu am 12 mis am ymosod yn feddw ar actor Cymraeg.
Fe gafodd Rhys ap William o Gwm Tawe anafiadau difrifol oherwydd yr ymsodiad tu allan i dafarn yn Nhreganna, Caerdydd.
Digwyddodd yr ymosodiad ym mis Chwefror wedi buddugoliaeth Cymru yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Martin Frampton a'r actor wedi bod yn yfed yn drwm yn ystod y diwrnod a'r ddau wedi dechrau ffraeo.
Fe darodd Frampton yr actor a'r cyhoeddwr rygbi nes iddo ddisgyn i'r llawr a taro'i ben.
Bu yn yr ysbyty am bedwar diwrnod gyda anafiadau i'w ymennydd.
Straeon perthnasol
- 8 Ebrill 2013
- 26 Chwefror 2013
- 25 Chwefror 2013