Oedi ar gynlluniau ad-drefnu
- Cyhoeddwyd

Mae penderfyniad am ad-drefnu dadleuol i wasanaethau arbenigol ysbytai yn y de wedi cael ei ohirio tan ddiwedd y flwyddyn.
Mae ymgynghoriad ar y cynlluniau newydd ddod i ben, ac fe ddenodd dros 53,000 o ymatebion.
Mae wyth o ysbytai yn rhan o'r ymgynghoriad mewn ardal sy'n cynnwys Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a de Powys, ond cred penaethiaid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mai dim ond pedwar neu bum ysbyty ddylai gael gwasanaethau arbenigol fel unedau damweiniau a gofal babanod cynnar.
Arweiniodd y cynlluniau at gyfres o brotestiadau ac ymgyrchoedd yn enwedig yn ymwneud ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Roedd y cyn weinidog addysg, Leighton Andrews, yn rhan o un brotest o'r fath - roedd hynny'n un o'r digwyddiadau arweiniodd at ymddiswyddiad Mr Andrews fel gweinidog yn gynharach eleni.
'Ymateb anferth'
Gobaith gwreiddiol y rhai oedd tu cefn i'r cynlluniau ad-drefnu oedd cyhoeddi cynlluniau terfynol ffurfiol ym mis Hydref, ond dywedodd Paul Hollard - cyfarwyddwr y rhaglen:
"Hoffwn ddiolch i aelodau'r cyhoeddi a grwpiau eraill am eu hymateb i'r ymgynghoriad, ac am fod yn rhan o'r drafodaeth bwysig yma am ddyfodol gwasanaethau babanod newydd-anedig a gwasanaethau gofal argyfwng ar draws de Cymru a de Powys.
"Mae hwn yn ymateb anferth i ymgynghoriad GIG ac yn dangos pa mor gryf yw teimladau pobl am y GIG, ac felly pwysigrwydd sicrhau bod gofal o'r safon uchaf ar gael mor lleol â phosib.
"Mae'n dangos hefyd bod pobl yn deall y pwysau sylweddol sydd ar y gwasanaethau yma, a'r rhesymau pam fod angen i ni wneud newidiadau er mwyn eu diogelu yn gynaliadwy i'r dyfodol.
"Yn y ddogfen ymgynghorol fe wnaethon ni awgrymu y byddai'r byrddau iechyd yn cwrdd ym mis Hydref i wneud penderfyniad am Raglen De Cymru, ond o ystyried maint yr ymateb rydym yn credu nad yw'r amserlen yma bellach yn briodol.
"Rydym felly'n disgwyl i'r byrddau iechyd gwrdd cyn diwedd y flwyddyn. Er yn cydnabod bod hynny'n hwyrach na'r disgwyl, mae'n bwysig i ni ystyried yr holl ymatebion cyn gwneud penderfyniad."
Straeon perthnasol
- 4 Mehefin 2013
- 25 Mehefin 2013
- 3 Mehefin 2013