Cleverly'n colli ei deitl byd
- Cyhoeddwyd

Roedd hi'n noson gymysg i ddau focsiwr o Gymru yng Nghaerdydd nos Sadwrn.
Aflwyddiannus oedd ymdrech Nathan Cleverly i amddiffyn ei goron WBO is-drwm y byd wrth iddo golli yn y bedwaredd rownd i Sergey Kovalev o Rwsia.
Ond fe gafodd gyrfa Enzo Macarinelli ei adfywio wedi iddo ennill pencampwriaeth y Gymanwlad yn yr un pwysau wrth stopio'r deiliad Ovill McKenzie.
Cafodd Cleverly, 26 oed, ei daro i'r llawr am y tro cyntaf yn ei yrfa yn y drydedd rownd, ac roedd yr ornest ar ben i bob pwrpas o'r foment honno.
Roedd grym y Rwsiad Kovalev yn sylweddol, a dangosodd pam ei fod wedi ennill 18 o'i ornestau cyn nos Sadwrn o fewn y tair rownd gyntaf.
Fe barodd Cleverly ychydig hirach na hynny, ond doedd gan y dyfarnwr ddim dewis ond dod â'r ornest i ben yn y bedwaredd rownd wrth i Cleverly barhau i gael ei daro'n ddi-drugaredd.
Wedi'r ornest mynnodd Cleverly nad oedd rheswm iddo deimlo cywilydd, gan ychwanegu:
"Yn amlwg mae'n ofnadwy pan mae rhywbeth fel yna'n digwydd.
"Ond i fod yn deg i Kovalev mae ganddo ergyd galed iawn.
"Mae'n ysgwyd ymennydd rhywun pan maen nhw'n glanio ar y pen, ac yn amlwg fe gadwodd y pwysau arnaf i."
Noson wahanol
Gallai'r noson ddim fod wedi bod yn fwy gwahanol i Macarinelli, 32 oed.
Roedd cyn-bencampwr gor-drwm y byd yn gwybod bod ei yrfa yn y fantol os na fyddai'n llwyddo i guro McKenzie - yr Americanwr a'i gurodd ym mis Tachwedd y llynedd.
Ar ôl goroesi pwysau gan McKenzie yn y rowndiau cynnar, fe roddodd Macarinelli reswm i'r dorf floeddio wrth ddod â'r ornest i ben yn rownd 11.
Bydd y fuddugoliaeth yn rhoi'r cyfle i Macarinelli ymgeisio unwaith eto am bencampwriaeth byd, a'r tro hwn bydd yn ymladd ar yr un pwysau â Cleverly.