Cyn-athletwr paralympaidd wedi marw
- Cyhoeddwyd

Bu farw'r cyn athletwr Paralympaidd Chris Hallam.
Enillodd y Cymro fedalau i Brydain yn y Gemau Paralympaidd yn Seoul (1988), Barcelona (1992) ac Atlanta (1996) wrth rasio cadair olwyn a nofio.
Ar ddau achlysur enillodd Farathon Llundain, gan osod record ar gyfer y cwrs yn ei fuddugoliaethau yn 1985 a 1987.
Daeth ei fedalau Paralympaidd yn nyddiau cynnar y gemau hynny, ac roedd yn ysbrydoliaeth i lawer o athletwyr eraill, gan gynnwys y Farwnes Tanni Grey-Thompson.
Dywedodd hithau ar ei gwefan Twitter ddydd Sul: "Newyddion trist iawn fod Chris Hallam wedi ein gadael.
"Fe oedd y rheswm ein bod ni wedi cyrraedd lle'r ydym ym myd rasio cadair olwyn."
"Yn y mudiad Paralympaidd ym Mhrydain fe oedd yr arloeswr. Doedd llawer o bobl ddim wedi clywed amdano oherwydd roedd ei gyfnod e cyn i wefannau cymdeithasol fodoli.
"Fe dorrodd pob rhwystr i lawr i athletwyr Paralympaidd."
Roedd Chris Hallam yn wreiddiol o Gwm-brân ac roedd wedi bod yn diodde' gyda chanser ers rhyw 18 mis.