Gwaith adfer Capel Gellionnen bron ar ben

  • Cyhoeddwyd
Capel Gellionnen
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r gwaith bron ar ben ar y capel

Cafodd Gŵyl Werin flynyddol ei chynnal ddydd Sul yng nghapel yr Undodiaid, Gellionnen yn Nhrebanos dros bum mlynedd wedi i fandaliaid achosi difrod sylweddol i adeilad hanesyddol.

Fe gafodd pulpud a meinciau'r capel eu malu'n llwyr, ac fe gafodd paent ei daflu ym mhobman yno yn ystod yr ymosodiad ym Mawrth 2008.

Cafodd y capel cyntaf ei godi ar y safle yn 1692.

Mae'r adeilad presennol yn dyddio nôl i 1801, ac mae'r adeilad yn un cofrestredig gan CADW.

Dywedodd un aelod o'r capel, Colin Morgan, ddydd Sul: "Roedd y drysau wedi cael ei distrywio, y sêt fawr 'di cael ei ddistrywio, y pulpud, ffenestri...popeth."

Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y capel ei ddifrodi'n sylweddol yn 2008

Gwaith caled

Roedd rhai yn credu na fyddai modd adfer yr adeilad i'w hen ogoniant, ond yn dilyn ymgyrch i godi arian a llawer o waith caled, mae pawb yn ôl a dywedodd cadeirydd y capel Clive Evans:

"Mae popeth wedi cael ei ddodi nôl fel o'dd e - ni 'di cael cefnogaeth gan bobl yn gweithio yma a phobl yn rhoi lot o arian i ni i 'neud y gwaith.

"Mae'r gwaith yn dod i ben, a ni'n gobeithio taw diwedd mis nesa fydd y gwaith wedi gorffen gyda'r paentio tu allan a'r tu fewn."

Er y siom bum mlynedd yn ôl, mae'r capel wedi llwyddo i gynnal yr Ŵyl Werin yma'n flynyddol.

Nawr bod yr adeilad yn agosáu at gael ei adfer yn llwyr, maen nhw'n benderfynol o wneud hynny am flynyddoedd i ddod.