Damwain: Dau ddyn yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am dystion wedi i ddau ddyn gael anafiadau difrifol mewn damwain ym Mhen-y-bont.
Roedd y ddau'n teithio mewn car Kia du darodd garej yn ardal Bryncoch tua 1.15am.
Cafodd yr A4061 ei hailagor ychydig cyn 5am.