Heddlu'n ymchwilio i ddifrodi Clawdd Offa ger Y Waun
- Cyhoeddwyd

Difrod: Y ffos wedi diflannu
Mae'r heddlu newydd ddechrau ymchwiliad i ddifrod sylweddol i ddarn o Glawdd Offa.
Dywedodd yr heddlu fod y mudiad sy'n gwarchod henebion, Cadw, wedi rhoi gwybodaeth iddyn nhw.
Cafodd y clawdd ei godi gan frenin Mercia yn yr wythfed ganrif, ac mae'n debyg mai Brenin Offa o Fersia wnaeth ei adeiladu er mwyn amddiffyn ei deyrnas rhag y Cymry.
Dywedodd Cadw na allai ddweud a fyddai modd atgyweirio'r clawdd.
Mae'n drosedd difrodi Clawdd Offa ac fe all troseddau arwain at ddirwy neu garchar am hyd at ddwy flynedd.
Straeon perthnasol
- 16 Awst 2013