Merched dan 19 Cymru 0-1 Merched dan 19 Denmarc
- Cyhoeddwyd

Mae merched dan 19 Cymru wedi colli o un gôl yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth UEFA sy'n cael ei chynnal yng Nghymru.
Nikoline Frandsen sgoriodd i Ddenmarc gydag ychydig mwy nag awr ar y cloc ym Mharc y Scarlets.
Chwaraeodd Cymru'n dda am gyfnodau hir, gan lwyddo i gadw tîm talentog Denmarc rhag sgorio yn yr hanner cyntaf.
Gêm gyntaf
Ond ofer fu eu hymdrechion yn y pen draw wrth i Frandsen sgorio gôl glyfar o gic rydd Anna Fisker wedi 61 munud.
Hon oedd gêm gyntaf tîm Cymru yn y bencampwriaeth ond roedden nhw bron â dod yn gyfartal yn erbyn tîm gyrhaeddodd y rownd gynderfynol y llynedd.
Roedd eu perfformiad yn galonogol a phwyson nhw tan y chwib ola'.
Bydd gêm nesaf Cymru yn erbyn Lloegr ym Mharc Richmond, Caerfyrddin, ddydd Mercher Awst 22 a Denmarc yn herio Ffrainc yn Stebonheath yn Llanelli.