93 wedi marw ar ffyrdd Cymru yn 2012
- Cyhoeddwyd

Mi gafodd 93 yng Nghymru eu lladd ar y ffyrdd yn 2012, yn ôl manylion Ystadegau Gwladol, hynny yw 23% yn llai na'r flwyddyn flaenorol.
Daw'r mwyafrif o ffigyrau oddi wrth yr heddlu.
Roedd bron 6,000 o ddamweiniau ffyrdd yng Nghymru yn 2012 lle y cafodd rhywun ei anafu.
Cafodd 941 anafiadau difrifol a 7,531 fân anafiadau.
Cwympo
Roedd mwyafrif y damweiniau a arweiniodd at bobl yn cael eu hanafu yn 2012 yn rhai defnyddwyr ceir, tacsi a minibws. 5,986 oedd y cyfanswm.
Ers 1968 pan gafodd yr ystadegau eu nodi, mae nifer y damweiniau ffyrdd wedi cwympo yn flynyddol.
Yn 1973 roedd y cyfanswm uchaf o bobl yn cael eu lladd, sef 424.
Ers 1979 ymlith cerddwyr mae'r cwymp mwyaf wedi bod o ran y rhai sy' wedi marw ar y ffyrdd ac mae'r nifer sy' wedi marw ar feic modur wedi haneru.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer y beicwyr sydd wedi marw wedi aros yn gyson yn weddol isel.
'Gwella diogelwch'
Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud bod y ffigyrau diweddara' yn newyddion da.
Dywedodd yr AC Byron Davies, llefarydd y blaid ar drafnidiaeth: "Mae ceir mwy modern a thechnoleg well, yn ogystal a gwell addysg i feicwyr, gyrwyr a cherddwyr, yn amlwg yn gwella diogelwch ar y ffyrdd.
"Mae'r ffigyrau yma yn dangos bod y nifer sydd yn cael eu hanafu wedi haneru yn y ddegawd ddiwethaf ac gyfer bron pob categori heblaw am yrwyr beiciau modur, sydd yn para yn uchel.
"Mae marwolaeth un person ar y ffordd yn un yn ormod ac mae yna dal waith i wneud i wella addysg diogelwch ffyrdd, yn enwedig ymlith dynion ifanc, y gyrwyr sy' fwyaf tebygol o gymryd risg."
Straeon perthnasol
- 24 Gorffennaf 2013
- 12 Mehefin 2013
- 23 Ionawr 2012