Llanandras: arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i ddyn 42 oed gael ei ddarganfod mewn cae yn Llanandras ym Mhowys fore Llun.
Aed ag o i'r ysbyty ond fe fu farw.
Mae'r heddlu yn cynnal profion fforensig a swyddogion yn cynnal ymholiadau eraill er mwyn ceisio dod i wybod sut y cafodd y dyn fu farw ei anafiadau.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth neu a welodd unrhyw beth amheus ffonio'r heddlu ar 101.
Straeon perthnasol
- 19 Awst 2013