Awdurdodau'n mynd â 30 o gŵn yng Nghaernarfon, Llandudno ac Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Mae'r awdurdodau wedi mynd â 30 o gŵn ac arestio dyn yn y gogledd.
Roedd y cyrchoedd yn rhan o Ymgyrch Morpheus ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru a'r RSPCA yn sgil adroddiadau am achosion ymladd cŵn a chreulondeb i anifeiliaid.
Roedd chwe chyrch i gyd yng Nghaernarfon, Llandudno ac Ynys Môn wrth i swyddogion chwilio am achosion o dorri Deddf Lles Anifeiliaid 2006.
Dywedodd Sarjant Rob Taylor, Pennaeth y Tîm Troseddau Cefn Gwlad newydd: "Rydym yn cymryd pob math o droseddau cefn gwlad o ddifrif a byddwn yn mynd ati i dargedu pobl sy'n defnyddio cŵn i ddibenion anghyfreithlon."
Ychwanegodd Prif Arolygydd Ian Briggs o Uned Gweithredoedd Arbenigol yr RSPCA: "Y gweithgaredd hwn heddiw yw'r diweddaraf yn ymchwiliadau parhaus yr RSPCA ledled Cymru a Lloegr i bobl sy'n defnyddio cŵn i hela ac ymladd yn erbyn anifeiliaid gwyllt.
"Rydym wedi cydweithio'n agos â Thîm Troseddau Bywyd Gwyllt Heddlu Gogledd Cymru ac rydym yn gwerthfawrogi eu cymorth er mwyn ceisio dod o hyd i'r bobl hynny sy'n cael eu hamau o drefnu creulondeb anifeiliaid.
"Mae gweithgareddau o'r fath yn achosi lefelau barbaraidd o ddioddefaint. Gobeithiwn y bydd cydweithio tebyg i heddiw yn dod â ni gam yn nes at roi stop ar gamdriniaeth anifeiliaid."