Glowyr yn aros am gyhoeddiad
- Cyhoeddwyd

Mae glowyr yn aros i glywed faint o swyddi fydd yn cael eu colli mewn pwll agorodd yn 2007.
Roedd rheolwyr a'r undeb ddydd Llun yn trafod ofnau y gallai hanner gweithlu pwll Unity, 100, golli eu swyddi.
Roedd cyfarfod arall ddydd Mawrth ond ni chafodd unrhyw fanylion eu rhyddau.
Agorodd y pwll yng Nghwmgwrach yng Nglyn Nedd yn 2007.
Dywedodd AS Castell-nedd Peter Hain fod y perchennog wedi beio oedi wrth roi caniatâd cynllunio.
Ond mae'r cyngor wedi gwadu unrhyw oedi.
Mae BBC Cymru wedi ceisio cael ymateb y rheolwyr.
300 o swyddi
Yn Ionawr diflannodd bron 300 o swyddi ym mhwll Aberpergwm.
Yn Hydref roedd Walter Energy o America wedi dweud eu bod yn ymgynghori oherwydd bwriad i golli swyddi.
Y rheswm, meddai, oedd amodau economaidd anffafriol a llai o alw am y cynnyrch.