Cyngor Torfaen yn torri eu cynllun iaith?

  • Cyhoeddwyd
Meri Huws
Disgrifiad o’r llun,
Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud y bydd hi'n ymchwilio fewn i honiadau fod Cyngor Torfaen wedi methu â chyflawni ei gynllun iaith statudol.

Bydd Meri Huws yn ceisio canfod os wnaeth y cyngor dorri gofynion y ddeddf iaith mewn cysylltiad â llinell ffon newydd gafodd ei sefydlu ym mis Gorffennaf.

Ni fydd hi'n gwneud unrhyw sylw pellach yn y cyfamser.

Mae'r Cyngor Torfaen yn dweud mai problemau technegol sydd wrth wraidd y broblem a'u bod wedi siomi gyda penderfyniad y comisiynydd.

Llinell ffôn

Cafodd llinell ffon awtomatig y cyngor ei lansio ar Orffennaf 27, ac mae neges ar wefan y cyngor yn dweud: "Mae'r gwasanaeth yn cael ei lansio'n Saesneg yn unig i ddechrau gyda'r fersiwn Gymraeg i ddilyn yn fuan."

Mae'r neges honno hefyd yn uniaith Saesneg.

Cafodd Cynllun Iaith y cyngor ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 30 Mawrth 2011 a bydd Ms Huws nawr yn edrych ar os yw'r cynllun hwnnw wedi cael ei dorri.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cyhoeddiad y comisiynydd, gan ddweud eu bod nhw'n falch o'i gweld yn mynd i'r afael a phroblemau gafodd eu codi gan y gymdeithas.

Newid agweddau

Dywedodd Branwen Brian, ysgrifennydd rhanbarth Morgannwg-Gwent, Cymdeithas yr Iaith; "Ry'n ni'n falch o weld bod Cyngor Torfaen wedi lansio'i gwefan yn ddwyieithog erbyn hyn ar ôl holl ymdrechion aelodau lleol i sicrhau hynny, a bod y comisiynydd wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i mewn i fethiant y cyngor i ddarparu llinell ffôn ddwyieithog.

"Ond mae yno sawl agwedd arall o'r cyngor lle mae'r Gymraeg yn cael ei esgeuluso lle byddai'r comisiynydd yn gallu cynnal ymchwiliad.

"Mae wedi cymryd misoedd o gwyno a chael cyfarfodydd er mwyn cael y Comisiynydd i ddefnyddio'i phwerau o gwbl. Ymddengys fel bod y comisiynydd wedi penderfynu mynd ar ôl y mater symlaf yn hytrach na chynnal ymchwiliad llawn i mewn i fethiannau'r Cyngor.

"Ry'n ni'n falch o weld bod agwedd y cyngor yn newid yn raddol ac edrychwn ymlaen at weld hyn yn digwydd gydag awdurdodau lleol heb orfod bygwth galw am ymchwiliad gan y comisiynydd."

Problemau technegol

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Torfaen: "Rydym wedi siomi fod comisiynydd yr iaith Gymraeg yn bwriadu ymchwilio os yw ein cynllun iaith wedi cael ei dorri oherwydd i ni fethu'r terfyn amser ar gyfer gweithredu'r system ffôn ddwyieithog.

"Mae'r system ffôn ddwyieithog yn ffurfio rhan o gynllun iaith y cyngor a'n hymrwymiad i'r iaith Gymraeg yn Nhorfaen.

"Mae dros ugain mil o eiriau ar gyfer sgript y ddwy iaith wedi eu hysgrifennu a'i recordio ymhob iaith ond oherwydd problemau technegol nad oedd posib eu rhagweld, fe gafodd lansiad y ddwy system eu gohirio.

"Mae'r problemau technegol gyda'r system Saesneg yn y broses o gael eu hymchwilio, ond cafodd ei lansio yn cynnwys gwallau er mwyn cefnogi'r cynnydd mewn galw oedd yn dilyn y diwygiadau i fudd-daliadau."

"Bydd yr hyn rydym wedi ei ddysgu'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y system Gymraeg, sy'n dal i gael ei adeiladu, ac mae disgwyl iddo fod yn barod erbyn diwedd Hydref.

"Byddem yn cydweithredu'n llawn gydag ymchwiliad y comisiynydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol