Rhybudd: Cau ysgol 'yn drychineb'
- Cyhoeddwyd

Mae cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Dewi Sant yn Nhyddewi wedi dweud y byddai'n "drychineb" petai Cyngor Sir Penfro yn penderfynu ei chau.
Dywedodd David Lloyd, sydd hefyd yn gynghorydd yn ninas leiaf Prydain, fod pobl leol yn benderfynol o frwydro unrhyw fwriad i gau'r ysgol.
Mae rhieni'n bryderus wedi iddynt glywed y gallai'r ysgol fod 20% yn wag o fewn pum mlynedd, gydag ysgolion eraill yn yr ardal yn wynebu problem debyg.
Dyw'r cyngor heb benderfynu ar y ffordd ymlaen eto ond maen nhw'n dweud y bydd angen darganfod ffordd i sicrhau addysg gynaliadwy.
Pryder
Daeth y wybodaeth am y sefyllfa yn ymwneud â'r lleoedd gwag yn dilyn cyfarfod o gabinet y cyngor sir.
Clywodd aelodau fod ffigyrau'r cyngor yn dangos y bydd 20% o leoedd gwag yn Ysgol Dewi Sant o fewn tair blynedd, a bydd y ffigwr hwnnw'n codi i tua 35% erbyn 2020.
Maen nhw hefyd yn darogan y bydd 35% o leoedd gwag yn Ysgol Bro Gwaun a 42% yn Ysgol Tasker Milward erbyn 2019.
Wrth i'r cyngor ystyried sut i fynd a'r afael â'r broblem, mae rhieni'n rhybuddio na fyddan nhw'n fodlon gweld Ysgol Dewi Sant yn cael ei chau.
Dywedodd David Lloyd: "Rwy'n cael pobl yn fy ffonio fi trwy'r dydd pob dydd a ni'n cwrdd 'da'r bobl, a does dim un yn yr ardal yma yn ffaelu gweithio yn galed iawn i gadw'r ysgol a dwi'n cyd-fynd a'r ymdrech hefyd."
'Trychineb'
Pan ofynnwyd iddo be fyddai effaith cau'r ysgol, dywedodd Mr Lloyd: "Wel bysai'n bosibl dweud y byddai hynny yn drychineb a dweud y gwir, mewn gair."
Ond mae Cyngor Sir Penfro yn mynnu y byddent yn gorfod gwneud rhywbeth am y 2,000 o leoedd gwag fydd yn eu hysgolion cyn diwedd y ddegawd yma.
Mewn datganiad, dywedon nhw eu bod eisiau sicrhau darpariaeth addysg "safonol, cynaliadwy, sy'n werth am arian".
Dywed y cyngor nad oes penderfyniad wedi cael ei wneud eto ond bod perfformiad ysgolion uwchradd y sir yn "siomedig" ac yn "destun pryder".
Straeon perthnasol
- 27 Chwefror 2013
- 8 Mai 2011