150 o swyddi'n mynd yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Mae bron 150 wedi colli eu swyddi wedi i fusnes llenni yn Sir y Fflint fynd i'r wal.
Ofer fu'r ymdrechion i ddarganfod prynwr newydd ar gyfer Montgomery Tomlinson ac roedd hon yn ergyd i 146 o weithwyr ym mhentref Bretton ger Brychdyn.
Bydd 384 o swyddi eraill yn cael eu colli yn adrannau siopau mawr ym Mhrydain, gan gynnwys House of Fraser, Debenhams a T J Hughes.
Mae cwmni KPMG wedi cael eu penodi'n weinyddwyr a dywedon nhw na fyddai gweithwyr yn cael cyflog mis Awst oherwydd diffyg arian.
'Amhosibl'
Dywedodd Will Wright, aelod o'r tîm gweinyddu: "Er gwaethaf ymdrechion diflino'r cyfarwyddwyr i sicrhau gwerthiant neu fuddsoddiad yn y busnes ers mis, mae wedi bod yn amhosibl dod o hyd i ateb ymarferol i'r cwmni barhau i fasnachu.
"O ganlyniad i farchnad gynyddol gystadleuol, fe wnaeth llai o werthu olygu bod y cwmni'n brin iawn o arian ac yn methu â chyflawni eu hymrwymiadau ...
"O ystyried sefyllfa ariannol y busnes, yn anffodus nid oes digon o arian i wneud taliadau ar gyfer cyflogau mis Awst a byddwn yn gweithio mor galed ag y bo modd i helpu gweithwyr yn eu ceisiadau i'r Swyddfa Taliadau Dileu Swydd."
Y llinell ffôn ar gyfer cymorth i weithwyr sydd wedi colli eu swyddi yw 0845 672 8052.