Rhybudd dros effeithiau PTSD
- Cyhoeddwyd

Mae mam milwr gafodd ei ladd wrth ei waith yn rhybuddio y bydd Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) yn arwain at "don fawr" o hunanladdiadau a throseddu os na wnaiff y llywodraeth weithredu.
Fe farwodd mab Hazel Hunt, Richard Hunt - oedd yn 21 - mewn ffrwydrad yn Afghanistan yn 2009.
Ers hynny mae Mrs Hunt wedi bod yn gweithio gyda chyn-filwyr eraill fel rhan o elusen gafodd ei sefydlu yn enw'i mab.
Preifat Hunt oedd y 200fed milwr o Brydain i gael ei ladd yn y rhyfel yn Afghanistan.
Panorama
Fis diwethaf fe wnaeth Panorama ddarganfod fod mwy o filwyr a chyn-filwyr Prydeinig wedi lladd eu hunain y llynedd na wnaeth farw ar faes y gad.
Fe wnaeth y rhaglen ddarganfod 50 achos o hunanladdiadau yn 2012 - ffigwr oedd llawer uwch na'r saith wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn adrodd i'r Senedd yn San Steffan.
Roedd un o'r achosion gafodd ei ddangos ar y rhaglen yn ymwneud a Dan Collins o Sir Benfro a laddodd ei hun ar Ionawr 1, 2012.
Mae Mrs Hunt eisoes wedi rhybuddio nad yw'r ddarpariaeth ar gyfer ymdrin â PTSD yn y Deyrnas Unedig ddigon da.
Mae hi hefyd wedi siarad yn gyhoeddus yn erbyn y rhyfel, yn ogystal â sefydlu'r elusen Welsh Warrior Richard Hunt Foundation sy'n helpu milwyr a'u teuluoedd.
Drwy ei gwaith gyda'r elusen mae hi wedi dod ar draws amryw o achosion o filwyr a chyn filwyr yn dioddef o'r clefyd.
'Yn ei dagrau'
"Dyw'r bechgyn a'r merched hyn ddim yn cael unrhyw help a dyw meddygon teulu ddim yn adnabod symptomau PTSD," meddai.
"Roedd un dyn wnes i siarad ag ef oedd wedi mynd at ei feddyg am help ond fe oedd yn gorfod ei chysuro hi yn y diwedd gan ei bod hi yn ei dagrau oherwydd nad oedd hi'n gwybod dim am PTSD."
Dywedodd bod angen gwella'r ddarpariaeth sydd ar gael erbyn i luoedd NATO adael erbyn diwedd 2014.
"Ar hyn o bryd mae'n dameidiog, yn anghyson. Maen nhw angen hyfforddiant i'w adnabod a gwybod at bwy i'w cyfeirio," meddai Mrs Hunt.
"Os nad ydynt yn cael y cymorth maen nhw angen mae llawer iawn o bobl yn mynd i fod yn lladd eu hunain ac yn troseddu."
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod iechyd meddwl eu milwyr yn "blaenoriaeth i'r llywodraeth".
"Dyna pam rydym wedi ymrwymo £7.4 miliwn i sicrhau fod cefnogaeth drylwyr mewn lle i bawb sydd ei angen," dywedodd llefarydd ar eu rhan.
"Mae arbenigwyr meddygol a chlinigwyr yn gweithio o fewn ein lluoedd arfog ac ar draws y gwasanaeth iechyd ac maent wedi ymrwymo i ddarparu'r gofal orau posibl i bawb sydd wedi gwasanaethu eu gwlad yn ddewr er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwyth i'r gwasanaeth iechyd."
Straeon perthnasol
- 24 Gorffennaf 2012
- 18 Awst 2009