Enwi'r babi fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi dweud mai Alfie Sullock oedd y babi fu farw ddydd Mawrth.
Mae ei fam hefyd wedi ei enwi'n lleol fel Donna Sullock o'r Tyllgoed, Caerdydd.
Mae Heddlu Gwent wedi dechrau ymchwiliad i lofruddiaeth wedi i'r fabi farw yn yr ysbyty wedi ymosodiad yn Nelson ger Caerffili.
Cafodd Alfie ei gludo i Ysbyty'r Tywysog Charles cyn cael ei symud i Ysbyty Athrofaol Cymru lle bu farw brynhawn Mawrth.
Cyhuddo
Mae'r heddlu yn holi Michael Pearce, 32 oed o Nelson, sy' eisoes wedi ei gyhuddo o ymosod.
Fe wnaeth ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerffili ddydd Llun, Awst 19, a bydd yn Llys y Goron Casnewydd ar Awst 29.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "Mae Heddlu Gwent wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth bachgen bach yn ardal Nelson.
"Fe wnaeth yr heddlu dderbyn galwad i gyfeiriad am 9.15pm ar ddydd Gwener, 16 Awst yn dweud fod babi ddim yn anadlu."
Straeon perthnasol
- 20 Awst 2013