Damwain awyren fechan ger Pwllheli
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwilwyr damweiniau awyr yn ystyried amgylchiadau digwyddiad nos Fawrth pan gafodd dau ddyn eu hanafu ger Pwllheli.
Roedd awyren fechan microlight y ddau wedi taro'r ddaear ychydig cyn 9:00pm, medd Heddlu'r Gogledd.
Cafodd criwiau diffoddwyr o Abersoch, Nefyn a thîm arbenigol o Gaernarfon eu gyrru i'r digwyddiad.
Llwyddodd y criwiau i dynnu'r batri o'r awyren a thynnu un aden hefyd er mwyn diogelu'r awyren. Doedd tanc tanwydd yr awyren ddim wedi torri, felly doedd dim tân.
Ni chafodd y ddau ddyn anafiadau yn y digwyddiad.