Apêl yr heddlu am fachgen ar goll
- Cyhoeddwyd

Does neb wedi gweld Joshua Shaw er sdydd Llun, Awst 19
Mae Heddlu Gwent wedi gofyn am gymorth wrth ymchwilio i ddiflaniad bachgen 12 oed.
Does neb wedi gweld Joshua Shaw o Cross Keys ers dydd Llun, Awst 19.
Cafodd ei ddisgrifio fel bachgen 5' 0" o daldra ac o gorff tenau. Roedd yn gwisgo trowsus tracwisg glas ac esgidiau coch.
Credir bod Joshua yn ardal Rhymni/Llanrhymni o Gaerdydd, ac mae'r heddlu'n bryderus amdano oherwydd ei oed.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth gysylltu gyda Heddlu Gwent drwy ffonio 101 a nodi'r cyfeirnod 245 19/08/13.