Coleg yn uno gyda Phrifysgol Cymru
- Cyhoeddwyd

Daeth cadarnhad bod Coleg Sir Gâr wedi uno'n ffurfiol gyda Grŵp Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Dywedodd y coleg bod yr uno yn rhan o agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg ôl-14 oed, ac fe gafodd ei wireddu dan Siartr Frenhinol 1828 y Brifysgol.
O fewn strwythur y grŵp bydd Coleg Sir Gâr yn parhau i gynnig addysg bellach ar ei phum campws yn Sir Gaerfyrddin.
Wrth groesawu Coleg Sir Gâr i mewn i Strwythur Grŵp y Brifysgol, dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor:
"Rydym yn creu system newydd radical o addysg ar gyfer Cymru a fydd yn trawsnewid, yn llunio ac yn datblygu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
"Mae system Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn cynnwys prifysgolion a cholegau sydd wedi ymrwymo i addysgu myfyrwyr o bob oed a chefndir ac ysgogi datblygiad economaidd yn ein rhanbarth.
"Bydd buddiannau o'r fath yn cael eu cyflawni trwy ddarparu portffolio perthnasol o raglenni, addysgu arloesol ac ymchwil cymhwysol, yn ogystal â datblygu partneriaethau strategol, yn enwedig gyda chyflogwyr."
'Hanesyddol ac arloesol'
Ychwanegodd Barry Liles, Prifathro Coleg Sir Gâr: "Cafodd yr uno hanesyddol ac arloesol hwn ei gwblhau o sefyllfa o gryn gryfder, gyda'r ddau sefydliad yn meddu ar broffiliau ansawdd da iawn ac iechyd ariannol cadarn.
"Mae'r uno wedi creu strwythur grŵp addysgol cryf ac arloesol ar gyfer De-orllewin Cymru, gan ymgorffori addysg bellach ac addysg uwch. Gellir galw'r strwythur grŵp hwn yn 'Brifysgol Sector Deuol' ac wrth wraidd y datblygiad hwn ceir strategaeth i wella cyfleoedd i ddysgwyr ar bob lefel ar draws y rhanbarth."
Wrth groesawu'r uno, dywedodd Huw Lewis, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau:
"Mae'r uno hwn yn gam mawr ymlaen i Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Trwy ddod ag addysg bellach ac uwch ynghyd yn y modd hwn, bydd y sefydliad newydd hwn yn gallu cynnig ystod gyfan o gyfleoedd gwahanol i ddysgwyr ac adeiladu ar bartneriaethau hanfodol o fewn y gymuned fusnes.
"Mae hyn yn newyddion da i ddysgwyr ac economi De-orllewin Cymru. Hoffwn longyfarch pawb sydd ynghlwm â'r broses hon am eu gweledigaeth a'u hymrwymiad wrth wireddu'r uno."
Straeon perthnasol
- 20 Awst 2013
- 12 Mehefin 2013
- 27 Mai 2013
- 3 Mai 2013