Bore cymysg i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Mae cricedwyr Morgannwg wedi cael bore cymysg ar ddiwrnod cyntaf eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sir Gaerlŷr yn Abertawe.
Ar ôl galw'n gywir a dewis batio llwyddodd y ddau agoriadol i'r ymwelwyr i sgorio 67 heb golli wiced gyda 40 cyflym gan Greg Smith.
Ond yna fe gipiodd Morgannwg ddwy wiced gyflym wrth i Michael Hogan gael Smith allan (coes o flaen y wiced) cyn dal ergyd Niall O'Brien o fowlio Dean Cosker.
Wedi i'r ymwelwyr gyrraedd 100, fe ddaeth Andrew Salter ymlaen i fowlio gan ymuno â chriw dethol iawn - fe gipiodd wiced gyda'i belen gyntaf erioed yn y bencampwriaeth i gael gwared â Shivsinh Thakor.
Mae Edmund Eckersley a'r capten Matthew Boyce wedi adeiladu partneriaeth gref ers hynny, ac ychydig ar ôl cinio roedd Sir Gaerlŷr wedi cyrraedd 117 am 3 wiced.
Sgôr ddiweddaraf:
Sir Gaerlŷr - (batiad cyntaf) = 117 am 3
Morgannwg