Cynghrair Cymru: Prestatyn
- Cyhoeddwyd

Tymor diwethaf oedd un gorau erioed Clwb Pêl-droed Prestatyn - o Gynghrair Undebol y Gogledd yn 2006 i ennill Cwpan Cymru yn 2013, gan gyrraedd cystadleuaeth Ewropeaidd am y tro cyntaf.
Mae teimlad gwych o gwmpas Gerddi Bastion ar hyn o bryd.
Er hynny, roedd safon ein gêm yn y gynghrair ar ôl Nadolig flwyddyn diwethaf yn wael, gydag un fuddugoliaeth yn dilyn hollti'r gynghrair yn dangos fod prinder cryfder o ran dyfnder y tîm.
Penderfynodd Neil Gibson wneud rhywbeth am hyn drwy ddod â thri chwaraewr yn ôl - y gôl-geidwad Dave Roberts, yr amddiffynnwr Jack Lewis a'r ymosodwr Lee Hunt, yn ogystal â Shaun Hessey, amddiffynnwr sydd â phrofiad o chwarae yn y gynghrair bêl-droed.
Mae'r pedwar wedi chwarae eu rhan yn antur Ewropeaidd y dref dros yr haf.
'Setlo'n dda'
Fel cefnogwyr roeddem ni eisoes yn ymwybodol o safon Roberts, Lewis a Hunt ac rydym hefyd wedi cael ein siomi ar yr ochr orau efo perfformiadau Hessey, sydd wedi setlo fewn yn dda.
Roedd buddugoliaeth wych yn erbyn SK Liepajas Metalurgs yn Latvia yn golygu cymal arall yn erbyn HNK Rijeka o Groatia.
Ni all colli 8-0 dynnu oddi ar lwyddiannau anferth y tim flwyddyn diwethaf, ac mae balchder y cefnogwr yn y tîm wedi cael ei wneud yn gryfach wrth i ni guro ein cymdogion Y Rhyl yn gêm derfynol Cwpan y Gogledd.
Mae dechrau'r tymor hwn yn un anodd i'r dref wrth i ni wynebu'r Bala ar y dydd Gwener cyntaf ac yna TNS a Bangor yr wythnos wedyn.
Dwi'n gobeithio y cawn ni ddechrau da ac y byddwn i yn y chwech uchaf pan ddaw'r hollt ac y bydd ein carfan gryfach yn ein galluogi i ni wneud yn well ar ôl y Nadolig.
Dwi'n siŵr mai amcan y tymor fydd cyrraedd Ewrop eto, a byddai rhediad da yn y gwpan unwaith eto yn braf hefyd. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at dymor cyffrous arall yn Uwchgynghrair Cymru.
Clwb blaenorol yn y gyfres: Cei Conna
Straeon perthnasol
- 30 Awst 2013
- 29 Awst 2013