Cynghrair Cymru: Gap Cei Cona
- Cyhoeddwyd

Mae'r Nomads - neu Clwb Pêl-droed Gap Cei Cona fel rydym yn cael ein galw'n swyddogol - wedi mynd trwy amseroedd cythryblus yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
O fod yn dîm cadarn yn yr Uwchgynghrair, fe ddisgynnon ni i'r ail adran oherwydd y newid strwythur i 12 tîm. Fe wnaeth chwarae yng Nghynghrair Huws Gray am gyfnod fyd o les i ni yn y diwedd.
Fe aethom yn ôl i wneud y pethau syml, fe gafon ni'r meddylfryd o ennill yn ôl ac ar ôl curo'r gynghrair honno'n olynol cafon ein dyrchafu nôl i'r adran uchaf.
Doedd neb yn disgwyl i'r Nomads wneud yn dda'r tymor diwethaf - fe wnaethom roi sioc i'r gynghrair wrth i ni gael dechrau gwefreiddiol i'r ymgyrch wnaeth ein galluogi i gael digon o bwyntiau erbyn mis Chwefror i fod yn y chwech uchaf.
Roedd hyn yn golygu ein bod ni'n ddiogel a ninnau ond hanner ffordd drwy'r tymor oherwydd yr hollt yn y gynghrair.
Ond er y chwarae gwych wnaeth roi'r hawl i ni chwarae yn y chwech uchaf, fe gafodd hyn ei gymryd oddi arnom wrth i ni golli pwynt am chwarae rhywun oedd ddim yn gymwys.
Er gwaetha'r siom fe wnaethom fwrw ymlaen gan orffen yn wythfed, oedd yn golygu ein bod yn y gemau ail gyfle ar gyfer chwarae yn Ewrop.
Dyw pobl ddim yn ystyried y Nomads i fod yn fygythiad. Mae pobl i weld yn cael eu denu fwy at y timau mawr fel TNS, Bangor, Airbus a'r cewri sydd newydd gael eu dyrchafu, Rhyl.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn disgwyl i ni orffen yn isel yn y tabl, ac yn ein gweld ni'n mynd lawr i'r ail adran.
Gallai hyn weithio o'n plaid ni'r flwyddyn hon yn enwedig o ystyried y ffaith ein bod ni wedi, yn dawel iawn, llofnodi enwau mawr. Mae Paul Mooney yn un u'r rhain - roedd yn arfer chwarae i Rhyl a daeth o fewn trwch blewyn y tymor diwethaf i gael cytundeb proffesiynol gyda Swindon Town.
Rydym yn dîm sy'n tyfu, tîm sy'n dal i ddysgu ond dwi'n ffyddiog fod genyn y grym ewyllys i roi sioc arall i'r gynghrair y tymor hwn.
Clwb blaenorol yn y gyfres: Caerfyrddin
Straeon perthnasol
- 29 Awst 2013
- 28 Awst 2013