Cynghrair Cymru: Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Caerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,
Mae Peter yn edrych ymlaen at weld ei dîm yn chwarae pêl-droed safonol y tymor hwn

Mae'n argoeli y bydd tymor 2013-14 yn un llwyddiannus iawn i Glwb Pêl-droed Caerfyrddin ar y cae ac oddi arno.

Ni all y cefnogwyr na'r ymwelwyr lai na sylwi ar y newidiadau sylweddol gan fod y cae chwarae wedi ei godi a'i lefelu yn ystod yr haf ac, yn ôl aelod o'r pwyllgor: "Ma' fe fel bwrdd snwcer bellach, un o'r caeau gore yn y gynghrair."

Yn ogystal codwyd ystafelloedd newid newydd sbon ar ochr yr eisteddle, sy'n cydymffurfio o ran lle a chynnwys gyda holl reolau UEFA.

Mae stiwdio Radio Sir Gâr wedi ei gosod tu ôl i'r gôl ar gyfer sylwebaeth o'r gemau cartref ac fe lanhawyd a phaentiwyd pob twll a chornel cyn y gemau rhyngwladol yng Nghystadleuaeth Timau Merched o Dan 19 oed ar Barc Waundew yn ystod mis Awst.

Tra bod hyn i gyd yn digwydd bu'r rheolwr Mark Aizlewood a'r hyfforddwr Neil Smothers yn brysur yn ychwanegu a chryfhau'r garfan o chwaraewyr.

Er cyrraedd y chweched safle yn y gynghrair y llynedd ac ennill Cwpan Word yn y rownd derfynol yn erbyn Y Seintiau Newydd mae Mark a Neil yn awyddus i ddatblygu sgiliau ei chwaraewyr sy'n cynnwys bechgyn ifanc lleol fel Iestyn Davies a Sam Wilson a Dafydd Jones y golwr - y tri wedi ennill capiau i dimau Ysgolion a Cholegau Cymru y tymor diwethaf.

Maen nhw wedi arwyddo Ashley Curtis sy'n asgellwr, Jordan Follows, cyn chwaraewr gyda Llanelli ac Aberystwyth, Kyle Bassett a Corey Jenkins o dîm Goytre a daw Chris Thomas yn ôl i Gaerfyrddin o Fangor, a Llanelli cyn hynny.

Yn y cyfamser, mae Cortez Belle wedi symud i Gaerfyrddin o Bort Talbot. Bu Cortez yn gweithio gyda Mark yng Nghaer rai blynyddoedd yn ôl.

Mae Steve Cann yn y gôl a chwaraewyr fel Tim Hicks, Craig Hanford, Ian Hillier, Matthew Rees a Carl Evans, yn yr amddiffyn.

Corey a Casey Thomas, Nicky Palmer, Luke Cummings a Paul Fowler sydd yng nghanol y cae a dewis da o ymosodwyr yn Craig Hughes, Liam Thomas a Christian Doidge.

Felly mae'r gobeithion am dymor llwyddiannus yn uchel a does dim rhyfedd eu bod wedi ennill pob gêm baratoi heblaw'r gêm ardderchog yn erbyn Dinas Caerfaddon.

Fe aeth y garfan i'r Iwerddon i chwarae tair gêm yng Nghorc i orffen eu paratoadau cyn y gêm gyntaf yn y gynghrair.

Mae'r gobeithion o gael chwarae yn Ewrop unwaith eto, fel yn y dyddiau gynt, yn uwch y tymor hwn nac y buon nhw ers sawl tymor, ac er cyrraedd y chwech uchaf ac ennill un o'r cwpanau y tymor diwethaf mae'n amlwg mai arwyddair Mark a Neil yw "Nid da lle gellir gwell."

Clwb blaenorol yn y gyfres: Aberystwyth