Cynghrair Cymru: Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

Y newid fwyaf amlwg ar Goedlan y Parc dros yr haf yw'r ffaith fod Tomi Morgan wedi gadael a taw ei gyn-aprentis Ian Hughes sydd bellach wrth y llyw.
Mae Hughes wedi gweithio o dan Alan Morgan yn ogystal ag o dan Tomi ac yn nabod y clwb yn dda, ond nawr gawn ni weld sut y mae am roi stamp ei hunan ar y tîm. Mae ganddo Wyn Thomas wrth ei ochr fel cynorthwyydd, felly bydd ganddo rywun i wneud y gwaith gwaeddu drosto, o leiaf!
Ar y cae, mae'r clwb wedi troi at bolisi o ddewis yn lleol, gyda nifer fawr o'r tîm yn dod o'r ardal. Y gobaith yw y bydd hyn yn dod â'r cefnogwyr 'nôl er mwyn gallu gwylio bois lleol - tra hefyd cael effaith ffafriol ar y gyllideb. Ond Mark Jones wedi profi ei hun fel sgoriwr goliau a Peter Hoy yn cyrraedd gyda sawl medal i'w enw.
Mae'r tîm wedi tangyflawni yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Gyda'r chwaraewyr sydd ar gael, fe ddylent fod yn llawer mwy cystadleuol. Fel uned ymosodol, mi ddylai tîm sy'n cynnwys Chris Venables, Geoff Kellaway, Craig Williams a Mark Jones allu cystadlu yn y gynghrair hon.
Gobeithio y bydd Ian Hughes yn gallu cael y gorau allan ohonynt a dod â'r hwyl nôl i Goedlan y Parc. Os gall lwyddo i wneud hynny, dyw gorffen yn y chwech uchaf ddim allan o'u gafael.
Chwaraewr i'w wylio: Rhydian Davies. Dal heb gyrraedd deunaw oed ond wedi cynrychioli Cymru ar sawl lefel, dwi'n credu y bydd hwn yn dymor mawr i'r chwaraewr lleol talentog hwn.
CHWARAEWYR I MEWN: Geoff Kellaway (Caerfyrddin), Craig Williams (Llanelli), Stuart Fraser (Penrhyncoch), Krzystzof Nalborski (Penrhyncoch), Peter Hoy (Bangor)
CHWARAEWYR ALLAN: Gavin Cadwallader (Derwyddon Cefn), Jordan Follows (Caerfyrddin), Matty Collins (Caerfyrddin), Michael Walsh (Rhyl), Sean Thornton (Conwy)
Clwb blaenorol yn y gyfres: Port Talbot
Straeon perthnasol
- 27 Awst 2013
- 26 Awst 2013