Dedfrydu Manning: 35 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Mewn llys milwrol yn Fort Meade, Maryland, mae Bradley Manning wedi ei ddedfrydu i 35 mlynedd o garchar am ryddhau gwybodaeth i wefan Wikileaks.
Cafwyd y milwr Americanaidd 25 oed yn euog am nifer o droseddau, gan gynnwys ysbïo, am iddo ryddhau miloedd o ddogfennau cyfrinachol i'r wefan.
Ond ni chafwyd ef yn euog o gynorthwyo'r gelyn.
Aeth i Ysgol Tasker Millward yn Hwlffordd am dair blynedd tan yr oedd yn 16 oed.
Roedd uchafswm y ddedfryd wedi ei ostwng o 136 blynedd i 90 yn gynharach ym mis Awst wedi i rai o'r cyhuddiadau gael eu cyfuno.
60 mlynedd
Mae'r ddedfryd yn llai nag yr oedd erlynwyr wedi gobeithio - roedden nhw yn gofyn am 60 mlynedd - ond mae hefyd yn fwy nag oedd yr amddiffyn yn dweud yr oedd yn ei haeddu, sef 25 mlynedd.
Bydd y cyfnod y mae Manning wedi ei dreulio yn y carchar, tair blynedd, yn cael ei dynnu o'r cyfanswm, yn ogystal â 112 diwrnod ychwanegol oherwydd y "driniaeth lem" gafodd yn syth wedi iddo gael ei arestio.
Bydd rhaid iddo dreulio o leiaf draean o'i ddedfryd dan glo cyn iddo fod yn gymwys ar gyfer parôl.
Fe gafodd ei ddyfarnu'n euog ym mis Gorffennaf.
Yr wythnos ddiwethaf ymddiheurodd am "ganlyniadau annisgwyl" ei weithredoedd.
Ychydig wedi iddo glywed y newyddion dywedodd ei ewythr Kevin Fox o Hwlffordd: "Mae'n llai nag yr oeddwn i wedi ofni felly mae hynny'n beth da ac mae apêl ar y gorwel.
"Roedden nhw'n dweud y byddai'n 60 mlynedd felly mae'n llai na'r disgwyl.
"Ond fy marn onest i yw na ddylai dreulio unrhyw amser dan glo. Mae'n arwr, mae'n haeddu medal."
Roedd Manning wedi dweud ei fod wedi rhyddhau'r wybodaeth er mwyn hybu dadl gyhoeddus am bolisi tramor yr Unol Daleithiau.
Straeon perthnasol
- 30 Gorffennaf 2013
- 3 Mehefin 2013