'Pam rwy'n dilyn Cynghrair Cymru'
- Cyhoeddwyd

Rwyf eisiau siarad am uchafbwynt pêl-droed Cymreig, heblaw'r tîm cenedlaethol wrth gwrs, ac na, efallai nid yw'n gystadleuaeth enwog iawn ond fel Cymro balch rydw i'n teimlo ei bod yn haeddu sylw am unwaith.
Na, nid yw'r pêl-droed o'r ansawdd orau ac ni cheir miloedd yn mynychu'r gemau ond mae'r rhai sydd yn mynd yn angerddol ac yn falch iawn o'u timau cartref, ac mae hyn yn bwysig iawn.
Y dyddiau yma mae plant yn mynd yn syth i gefnogi'r timau mwy megis Barcelona, Chelsea a Manceinion Unedig heb hyd yn oed ystyried eu timau lleol. Fe ellid fy nghyhuddo i o wneud yr un peth, yn dewis Lerpwl dros fy nhîm lleol, Tref Caerfyrddin - tref yr oeddwn yn arfer chwarae drosti ar lefel ieuenctid.
Felly, dyma roi ychydig o sylw i'r gynghrair orau mae Cymru yn gynnig: Uwchgynghrair Cymru Corbett Sports.
Cynghrair i Gymru
Lansiwyd y gynghrair yn 1991 gan Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Alun Evans, yn dilyn pryderon fod y tîm cenedlaethol dan fygythiad gan FIFA.
Cred Mr Evans oedd fod rhai aelodau o FIFA yn anhapus i weld y pedwar cenedl cartref yn cael eu cynrychioli ar ben eu hunain, pan nad oedd gan Gymru gynghrair genedlaethol ei hun.
Roedd sibrydion fod cynllun ar y gweill i ffurfio tîm ar gyfer y Deyrnas Unedig yn lle fod gan Gymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon dimau eu hunain.
Ffurfiwyd y gynghrair newydd mewn pryd ar gyfer tymor 1992/93, ond nid oedd timau cryfaf Cymru yn rhan ohoni, gan eu bod wedi'i ymrwymo i system gynghrair Lloegr. Y rhain oedd: Wrecsam, Abertawe, Caerdydd, Aberdâr, Casnewydd a Merthyr.
Fe ddechreuodd gyda ffrae rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a'r timau oedd yn chwarae yng nghynghreiriau is Lloegr ar y pryd oedd yn cael eu galw yn yr 'Irate Eight'. Roeddent eisiau aros yng nghynghrair pêl-droed Lloegr. O'r wyth (Bangor, Tref y Barri, Caernarfon, Bae Colwyn, Merthyr Tydfil, Casnewydd, Y Drenewydd a Rhyl) dim ond tri wnaeth gytuno, er yn amharod, i chwarae yn y gynghrair Gymreig, ond mae pob un heblaw Merthyr a Bae Colwyn bellach yn chwarae yng Nghymru.
Yn 2008, cytunodd yr 18 tîm presennol i ailstrwythuro'r cynghrair, gan leihau'r Uwchgynghrair i 12 tîm ag ehangu'r Ail Gynghrair.
Yr Uwchgynghrair heddiw
Mae'r Uwchgynghrair bresennol yn cynnwys 12 tîm; Aberystwyth, Afan Lido, Airbus UK Brychdyn, Bala, Bangor, Caerfyrddin, Gap Cei Cona, Y Drenewydd, Port Talbot, Prestatyn, Rhyl a'r Seintiau Newydd.
Mae'r chwech sydd ar y brig ar ddiwedd Ionawr yn chwarae ei gilydd eto i gystadlu ar gyfer y safleoedd Ewropeaidd tra bod y chwech sydd ar waelod y tabl yn brwydro i osgoi mynd i lawr.
Ni all y timau sy'n rhan isaf yr hollt orffen yn y chwech uchaf.
Mae enillwyr y gynghrair yn mynd drwodd i rowndiau cyntaf Cynghrair y Pencampwyr, tra mae pwy bynnag sy'n gorffen yn ail ac enillwyr y gwpan yn cael cystadlu yng Nghynghrair Ewropa.
Yn ogystal, mae'r timau sy'n gorffen rhwng y safleoedd trydydd a seithfed yn chwarae ei gilydd am safle arall yng Nghwpan Ewropa - mae hyn yn golygu fod gan dimau sy'n darganfod eu hunain yn ochr isaf yr hollt dal y cyfle i chwarae yn Ewrop, fel y digwyddodd y flwyddyn ddiwethaf gyda'r Bala.
Y pencampwyr presennol yw'r Seintiau Newydd, sy'n chwarae eu pêl-droed yng Nghroesoswallt. Mae'r Seintiau yn gyfartal gyda Tref y Barri ar gyfer nifer fwyaf o bencampwriaethau gyda'r ddau yn berchen ar saith yr un.
Cefnogwch eich tîm lleol
Nid yw nifer y dorf sydd yn dod i wylio yn uchel. Uchafbwynt cyfartaledd presenoldeb oedd 558 ym Mangor gyda dim ond 163 yn mynd i weld Afan Lido bob wythnos. Y brif broblem yw'r ffaith fod y gynghrair wedi methu denu timau o ardaloedd poblog Cymru, gydag Abertawe, Caerdydd, Wrecsam a Casnewydd yn parhau yn system Lloegr.
Un ffordd o gael mwy o dorf fyddai gadael i'r timau uchod i chwarae timau wrth gefn neu gael cynrychiolydd yn y gynghrair. Er y problemau, mae'r cynghrair wedi denu chwaraewyr mawr yn cynnwys Neville Southall a Mark Delaney.
Gyda thorfeydd llai daw incwm llai. Llanelli yw'r dioddefwyr diweddaraf o'r sefyllfa ariannol, yn mynd i'r wal yn gynharach eleni. Mae sawl un arall wedi cwrdd â'r un dynged, gan gynnwys Glyn Ebwy, Parc Maesteg a Chastell-nedd.
Felly, os yw eich tîm lleol yn chwarae yn y gynghrair neu beidio, ewch lawr i'w gwylio pob hyn a hyn. Mae eich timau lleol angen chi!
Mae'r Uwchgynghrair yn dechrau tymor newydd nos Wener, 23 Awst. Mae ticedi ar gael am bris rhesymol. Mae'r sgôr ddiweddaraf i'w clywed yn fyw ar Radio Cymru, ac mae rhai yn cael eu dangos ar S4C. Ewch i'w gweld!
Dilynwch Tomos ar Twitter am y newyddion diweddaraf o gaeau pêl-droed Cymru: @_TomosIngs_
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2013
- Cyhoeddwyd19 Awst 2013