Davies yn gydgapten y Scarlets
- Cyhoeddwyd

Mae'r canolwr Jonathan Davies wedi cael ei enwi fel cyd-gapten y Scarlets ar gyfer tymor 2013-14.
Rob McCusker fydd yn rhannu'r cyfrifoldeb wedi iddo arwain y Sgarlets y tymor diwethaf.
Dywedodd hyfforddwr y tîm, Simon Easterby: "Bydd y ddau'n cefnogi ei gilydd yn dda iawn. Mae ganddyn nhw wahanol sgiliau ..."
Bydd y Scarlets yn chwarae Leinster yn gêm gyntaf y Pro 12 ddydd Gwener, Medi 6.
Llewod
Mae Jonathan Davies wedi chwarae i Gymru 36 o weithiau ers iddo chwarae ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn Canada yn 2009.
Roedd hefyd yn aelod o dîm y Llewod ac fe chwaraeodd ymhob un o'u gemau yn ystod eu taith ddiweddar i Awstralia.
Doedd pawb ddim yn hapus pan benderfynodd Warren Gatland y dylai chwarae yn lle Brian O'Driscoll yn y gêm olaf ond curodd y Llewod 41 - 16 ac ennill y gyfres.
Mae Davies wedi chwarae 104 o gemau i'r Scarlets.