Ymchwiliad Pallial: Arestio dau yn Sussex
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a dynes wedi eu harestio fel rhan o ymchwiliad Pallial i honiadau o gamdrin plant mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru yn y gorffennol.
Cafodd y ddau eu harestio yn Sussex ar amheuaeth o ymosod yn anweddus ar fachgen.
Digwyddodd y troseddau honedig rhwng 1975 a 1976.
Bydd y dyn 63 oed a'r ddynes 60 oed yn cael eu holi mewn gorsaf heddlu yn Sussex.
Y rhain yw'r chweched a'r seithfed i gael eu harestio fel rhan o Ymgyrch Pallial.
Hyd yma, mae un person wedi ei gyhuddo o gyfanswm o 32 o droseddau rhyw difrifol.
Straeon perthnasol
- 31 Gorffennaf 2013
- 17 Rhagfyr 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol