Llanandras: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth yr heddlu
- Cyhoeddwyd

Cafodd y dyn ei ddarganfod mewn cae fore Llun
Mae dyn 19 oed wedi ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu wedi iddo gael ei holi am lofruddiaeth.
Bu farw Darren John Deakins, 42 oed, mewn ysbyty yn Henffordd ddydd Llun ar ôl cael ei ddarganfod mewn cae yn Llanandras yn y bore.
Roedd post-mortem ddydd Mercher ond ni ryddhawyd mwy o fanylion.
Dywedodd yr heddlu y dylai unrhyw un â gwybodaeth eu ffonio ar 101.
Straeon perthnasol
- 20 Awst 2013
- 19 Awst 2013