Beiciwr mewn cyflwr difrifol iawn wedi damwain yn Nhywyn
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr 33 oed mewn cyflwr difrifol iawn wedi damwain yn oriau mân y bore.
Roedd y ddamwain oherwydd gwrthdrawiad rhwng lori a beic yn Stryd Fawr Tywyn yng Ngwynedd.
Derbyniodd Heddlu Gogledd cymru alwad gan y gwasanaeth ambiwlans am 00.47am ac aed â'r dyn i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Mae'r heddlu'n apelio am dystion.