Morgannwg â'r llaw ucha' yn erbyn Sir Gaerlŷr
- Cyhoeddwyd

Roedd yr haul yn gwenu ar fatwyr Morgannwg yn erbyn Sir Gaerlŷr ar yr ail ddiwrnod.
Cafodd Murray Goodwin ei fowlio allan yn y diwedd ond cyn hynny roedd o 179 heb fod allan.
Michael Hogan oedd seren Morgannwg wrth hawlio pum wiced ar ddiwrnod cyntaf eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Abertawe.
Roedd batwyr yr ymwelwyr allan i gyd am gyfanswm o 203, gan roi'r tîm o Gymru mewn sefyllfa wych.
Erbyn diwedd y diwrnod ar ddydd Mawrth mae Morgannwg 445-7 ac yn arwain o 242 pwynt.
Sgôr ddiweddaraf:
Sir Gaerlŷr (batiad cyntaf) = 203 pawb allan
Morgannwg (batiad cyntaf) = 445 am 7
Straeon perthnasol
- 21 Awst 2013