Dim swyddi'n diflannu yng Nglofa Unity yng Nglyn Nedd
- Cyhoeddwyd

Agorodd y pwll yn 2007
Ni fydd swyddi'n diflannu mewn glofa am fod glowyr wedi cytuno i rannu shifftiau a derbyn llai o gyflog.
Mewn cyfarfod yng Nglofa Unity yng Nglyn Nedd cytunodd yr undeb mewn egwyddor y byddai 220 o lowyr yn rhannu shifftiau wedi i'r rheolwyr ddweud y byddai digon o waith ar gyfer 66.
Ar gyfartaledd bydd y glowyr yn derbyn chwarter eu cyflog flaenorol.
Roedd rheolwyr a'r undeb ddydd Llun wedi trafod oherwydd ofnau y gallai hanner gweithlu, 100, golli eu swyddi.
Roedd cyfarfod arall ddydd Mawrth ond ni chafodd unrhyw fanylion eu rhyddhau.
Agorodd y pwll yng Nghwmgwrach yng Nglyn Nedd yn 2007.