Cynghrair Cymru Tymor 2013/14: Dinas Bangor

  • Cyhoeddwyd
Bangor
Disgrifiad o’r llun,
Dyw Rhys ddim yn ffyddiog iawn ar gyfer y tymor newydd

Mae'n anodd iawn gwybod sut dymor gewn ni y tro yma - a bod yn onest mae yna sawl ffactor sy'n awgrymu fod pethau ddim yn argoeli'n hynod o hawdd i ni.

I ddechrau, roedd colli'r cyfle i fod yn Ewrop diwedd tymor diwethaf yn gnoc enfawr yn ariannol, ac mae hynny yn bownd o fod wedi effeithio ar ein gallu i ychwanegu i'r garfan.

Yn ail, mae yna sawl chwaraewr amlwg o'n tîm wedi gadael - ddaru Dave Morley fynd i Gaernarfon cwpl o wythnosau yn ôl, ac erbyn hyn mae o wedi ail-ymuno a'r Uwchgynghrair gyda Y Bala. Roedd Morley yn amlwg gyda dylanwad mawr ar y cae ac i ffwrdd o'r cae hefyd, gyda gallu arweinyddol cryf. A gyda Jamie Brewerton, ein capten, allan am yr holl dymor gydag anaf ofnadwy i'w ben-glin (a'i yrfa yn fantol), fydd hi'n ddiddorol i weld pwy a wneith ysbrydoli gweddill y tîm yn y tymor sydd i ddod.

Mae Peter Hoy, ein cefnwr wedi gadael am Aberystwyth, wedi dros deg mlynedd o wasanaeth i'r clwb. Roedd Hoy yn hynod o boblogaidd efo'r cefnogwyr, ac roedd ei hyblygrwydd o ran safle yn rhywbeth defnyddiol iawn. Mi ddaru o achub ein croen ni sawl gwaith ac mi o'n i yn drist i'w weld yn mynd. Nid Hoy yw'r unig amddiffynnwr i adael. Mae Brownhill hefyd wedi cadarnhau yn gynt yn yr haf ei fod yn ymadael â Nantporth.

Mae Levi Mackin wedi gadael am Gonwy hefyd, felly colled arall canol cae. Gellir dadlau taw'r golled fwyaf i ni fodd bynnag yw ymadawiad y blaenwr Chris Simm i Airbus. Simm oedd ein prif-sgoriwr tymor diwethaf. Roedd o yn medru creu goliau a'u sgorio nhw.

Yn amlwg mae'r holl golledion rhain yn gnoc syfrdanol i'r garfan, yn enwedig ein hamddiffyn. Ond nid yw diffyg arian Ewrop wedi rhwystro'n gallu i ychwanegu at y garfan yn gyfan gwbl - yn amlwg mae gan Nev ei lygaid ar y dyfodol gan ddod a thri amddiffynnwr ifanc fewn, sef Dec Walker, Joe Culshaw ag Anthony Miley, ynghyd a Kyle Parle sydd ar fenthyg i ni tan ddiwedd y flwyddyn.

W'n i ddim os fydd y rhain yn ddigon da i lenwi'r bwlch sydd wedi'i adael gan Brewie a Hoy, ond fe gawn ni weld, a alla i ond gobeithio y byddan nhw yn gallu cyd-chwarae'n effeithiol gyda Michael Johnston, un o amddiffynwyr gorau'r gynghrair a chwaraewr holl bwysig i ni'r tymor yma.

Mae yna rhai eraill wedi ymuno gyda'r clwb, yr asgellwr Jamie Petrie a'r canolwr ymosodol Rob Jones a'r ddau gyda phrofiad o'r Uwchgynghrair gyda Cei Cona. Hefyd mae cyfle wedi ei rhoi i'r chwaraewyr ifanc John Owen a Jamie McDaid, dau ymosodwr sydd wedi dod o'r academi.

Mae canlyniadau'r gemau cyfeillgar dros yr haf wedi bod yn gymysg - wedi rhoi crasfeydd i dimau megis Bwcle, Llanberis, Llanfairpwll a Gwalchmai (timau y byddwn i'n disgwyl i ni eu chwalu) - ond wedi derbyn crasfeydd hefyd gan Burscough a Thelford, a Derwyddon Cefn (er taw ail dimau oedd rhan helaeth o'r tîm).

Mae'n anodd iawn dyfalu sut dymor y cawn ni, ond gellir dychmygu fod hon efallai am fod yn ddechrau cyfnod o ail-adeiladu i dîm Nev Powell. Dwi ddim yn disgwyl y bydd y gêm dydd Sadwrn yn y Drenewydd yn un hawdd o bell, ond dwi'n hyderus gallwn ddod oddi yno gyda thri phwynt. Mae dechrau da i'r tymor wastad yn beth pwysig, ond yn enwedig gyda'r ansicrwydd sydd yn bownd o fod yn amgylchynu'r tîm wedi'r haf.

Clwb blaenorol yn y gyfres: Y Bala