Wyth yn yr ysbyty ar ôl anadlu cemegau mewn maes carafannau
- Cyhoeddwyd

Roedd cannoedd o litrau o glorine wedi llygru'r parc
Mae wyth o bobl wedi mynd i'r ysbyty ar ol digwyddiad cemegol mewn maes carafannau ger y ffin rhwng Sir Dinbych a Sir y Fflint brynhawn Iau.
Mae cannoedd o litrau o glorine wedi llygru parc Greenacres yng Ngronnant.
Dywed y perchennog nad oes yna neb wedi eu hanafu yn ddifrifol ond cafodd chwe oedolyn a dau o blant eu gyrru i'r ysbyty ar ôl anadlu'r nwy.