Abertawe 5-1 Petrolul Ploiesti
- Cyhoeddwyd

Abertawe 5-0 Petrolul Ploiesti
Wayne Routledge oedd seren Abertawe mewn gem gyffrous lle y curodd y tim cartref ei gwrthwynebwyr o Romania o bum gol i ddim.
Ar ol 14 munud fe sgoriodd yr asgellwr ac ar ol 22 munud a gyda amddiffyn gwan fe ddaeth gol arall i Abertawe gan Michu.
Roedd y gem drosodd ar ol 25 munud wrth i'r elyrch rhwydo eto. Gol arall i'r sais ifanc Wayne Routledge gyda pheniad y tro yma.
Bu'n rhaid i Petrolul Ploiesti weithio yn galed i geisio cael gafael ar y bel wrth i Abertawe dra arglwyddiaethu yn yr hanner cyntaf ac roedd hi bron yn bedair cyn y chwiban.
Ond wrth i'r gem ail gychwyn roedd hi'n amlwg bod y gwrthwynebwyr eisiau herio gyda rhediad pwerus gan Hamza Younes.
Abertawe fodd bynnag ddaeth yn agos i sgorio gyda chroesiad gan Pablo Hernandez i Wilfried Bony. Er iddo lwyddo i rheoli'r bel a'i tharo aeth hi ddim i mewn.
Gwelwyd gwaith traed da yn fuan wedyn gan Pablo Hernandez a'i ergyd yntau ychydig fodfeddi o gefn y rhwyd.
Pan ddaeth y pedwerydd gol i'r tim cartref doedd hi ddim yn un lan. Fe lwyddodd gol geidwad yr ymwelwyr i gael gafael yn y bel ond mi lithrodd hi o'i ddwylo a chroesi'r llinell.
Ar ol saith deg munud y daeth y bumed a'r un olaf a hynny wedi i Jonathan De Guzman ochrgamu rhai o'i wrthwynebwyr a phasio'r bel i Michu. Wedi i Michu rhoi hi i'r Sbaenwr Alejandro Pozuelo, fe gododd ef y bel dros y gol geidwad i'r gol.
Gyda ychydig funudau tan y chwiban olaf daeth gol hwyr gan y gwrthwynebwyr a honno yn un cystal nes yr oedd y dorf i gyd ar eu traed mewn cymeradwyaeth. Gheorge Grozav wnaeth ei sgorio hi.
Bydd yr elyrch rwan yn teithio i Romania ar gyfer yr ail gymal yn erbyn Petrolul Ploiesti.