Cynghorydd yn tawelu meddwl defnyddwyr canolfan hamdden

  • Cyhoeddwyd
Swansea's LCFfynhonnell y llun, Jaggery
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r ganolfan hamdden erbyn hyn wedi ail agor

Mae'r cyngor yn dweud bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau diogelwch defnyddwyr canolfan hamdden wedi i dair o ferched ddweud bod dyn wedi ymosod arnynt yno.

Digwyddodd yr ymosodiadau honedig ar ferched wyth, naw a 15 oed tua 4.20pm brynhawn Mercher yn Abertawe.

Maen nhw wedi dweud bod dyn yn y ganolfan hamdden yn Heol Ystumllwynarth wedi eu targedu.

Cafodd y ganolfan ei chau am gyfnod tra oedd yr heddlu yn chwilio'r adeilad.

Digwyddiad ynysig

Dywedodd Nick Bradley, aelod cabinet Abertawe yn gyfrifol am hamdden ac adfywiad: "Mi ddeliodd yr heddlu a staff y ganolfan hamdden gyda'r mater yn hynod o sensitif.

"Roedden nhw'n gyflym yn ymateb. Mae'r heddlu nawr yn delio gyda'r mater ac mi ydyn ni yn gobeithio dal yr unigolyn.

"Digwyddiad ynysig oedd hwn ac mae'r ganolfan ar agor fel arfer.

"Mi fydd pobl, yn amlwg, yn ofalus iawn ac mi fyddwn ni yn parhau i wneud yn siŵr bod yr amgylchfyd yn saff i bobl."

Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am y dyn o dan amheuaeth, dyn gyda lliw haul, gwallt brown hyd at ei goler, heb eillio ac yn gwisgo siorts glas neu ddu.

Dylai unrhyw un gyda gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu 01792 450618, neu gysylltu â Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol