Ymateb gwych i bêl-droed merched
- Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth eu bodd gyda'r ymateb i Bencampwriaeth Merched Dan-19 UEFA yng ngorllewin Cymru.
Daeth torf o dros 1,000 i weld Cymru yn erbyn Lloegr ym Mharc y Scarlets yn Llanelli ddydd Iau.
Roedd yn ornest glos tan i'r ymwelwyr sgorio tair gôl yn yr hanner awr olaf i roi Cymru allan o'r gystadleuaeth, ond fe gafodd y dorf wledd o bêl-droed.
Aeth dros 500 i weld y gêm rhwng yr Almaen a Sweden yn Hwlffordd yn ogystal wrth i'r Almaenwyr guro pencampwyr y llynedd o 2-0.
Gyda'r nos wedyn Ffrainc oedd yn fuddugol o 3-0 yn erbyn Denmarc ym Mharc Stebonheath cyn i'r Ffindir guro Norwy gyda gôl hwyr ym Mharc y Scarlets.
Er na fydd Cymru felly yn y rowndiau terfynol, mae'r Gymdeithas yn edrych ymlaen at y rownd olaf o gemau grŵp ddydd Sul pan fydd Cymru'n herio Ffrainc yn Hwlffordd.