Ymchwiliad Pallial: Rhyddhau dau ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a dynes gafodd eu harestio fel rhan o Ymchwiliad Pallial i honiadau o gamdrin plant wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Fe fyddan nhw ar fechnïaeth tan fis Rhagfyr.
Mae'r honiadau'n ymwneud â chartrefi gofal yng ngogledd Cymru flynynyddoedd yn ôl.
Cafodd y dyn 63 oed a'r ddynes 60 oed eu harestio yn Seaford, Sussex, ar amheuaeth o ymosod yn anweddus ar fachgen.
Digwyddodd y troseddau honedig rhwng 1975 a 1976.
Y rhain oedd y chweched a'r seithfed i gael eu harestio fel rhan o'r ymgyrch.
Hyd yma mae dyn wedi ei gyhuddo o gyfanswm o 32 o droseddau rhyw difrifol.
Straeon perthnasol
- 31 Gorffennaf 2013
- 17 Rhagfyr 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol