Cyngor yn gorfodi teulu i adael yn Aberpennar
- Cyhoeddwyd

Mae cyngor wedi gorfodi teulu i adael eu cartre' oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Roedd y teulu yn Aberpennar ger Aberdâr wedi bygwth lladd eu cymdogion.
Yn Llys Ynadon Merthyr cafodd Rhondda Cynon Taf, oedd wedi ymchwilio i 97 o ddigwyddiadau, ganiatâd i osod darnau o bren dros ffenestri a drysau'r tŷ.
Roedd cwynion wedi para am dair blynedd ac wedi dechrau fis ar ôl i'r teulu gyrraedd o Fryste yn 2010.
Bygythiadau
Yn y tŷ yng Nglenboi roedd Hillary Newell, 54 oed, a chanddi anawsterau dysgu, ei mab 23 oed, Mark Pugh, mab arall Matthew a chanddo anawsterau dysgu a chyn-bartner y fam, David Newell.
Clywodd y llys honiadau fod y fam wedi poeri at ei chymdogion, fod ei chyn-bartner wedi gwthio cymydog tra oedd y fam yn ei sarhau a bod bygythiadau i ladd.
Hefyd roedd honiadau fod plismyn wedi eu bygwth a bod ymosodiad ar un ohonyn nhw.
Clywodd ynadon fod cymdogion yn ofni cwyno na rhoi tystiolaeth yn y llys.
Roedd rhai wedi ofni mynd i mewn i'w gerddi.
'Diogelwch'
Dywedodd datganiad y Cwnstabl Sian Weyman fod effaith y teulu ar y gymdogaeth yn "anferth".
"Roedd y cymdogion yn poeni am eu diogelwch personol ac yn poeni am eu cartrefi."
Yn y diwedd caniataodd y llys orchymyn cau anheddau, y trydydd i'r cyngor ers Rhagfyr 2008.
Dywedodd David Jones, pennaeth amddiffyn y cyngor: "Mae cael y gorchymyn yn dangos pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa ... fe geisiodd pawb ddatrys y broblem hon cyn i ni gymryd cam eithafol er lles y gymuned."